Mae’r Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Darparu Gofal mewn Profedigaeth yng Nghymru ar gael yn:
https://llyw.cymru/fframwaith-cenedlaethol-ar-gyfer-darparu-gofal-mewn-profedigaeth
Mae crynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad cyhoeddus ar y Fframwaith Cenedlaethol drafft hefyd wedi'i gyhoeddi heddiw a gellir ei weld yn:
https://llyw.cymru/fframwaith-cenedlaethol-ar-gyfer-gofal-profedigaeth
I gefnogi'r gwaith o weithredu'r fframwaith, rydym wedi sefydlu grant cymorth profedigaeth, sy’n werth £1 filiwn, ar gyfer ein partneriaid yn y trydydd sector. Bydd angen i sefydliadau sy'n gwneud cais am y grant ddangos eu bod yn ychwanegu gwerth at y ddarpariaeth bresennol o gymorth mewn profedigaeth ledled Cymru ac yn mynd i'r afael â bylchau a nodwyd mewn gwasanaethau profedigaeth. Mae meini prawf llawn ar gyfer cael gafael ar y grant i'w gweld yn: https://llyw.cymru/grant-cymorth-profedigaeth-cenedlaethol-2021-i-2024
Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am am grant yw 4pm, dydd Gwener 26 Tachwedd 2021.