Mae’r ymgynghoriad sylweddol hwn yn cynnwys cynigion ar gyfer:
- Cod Ymarfer ar Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Comisiynu Gofal a Chymorth;
- swyddogaethau Swyddfa Genedlaethol dros Ofal a Chymorth;
- newidiadau i God Ymarfer Rhan 2 (Swyddogaethau Cyffredinol) yn ymwneud â sut mae awdurdodau lleol yn cyflawni eu dyletswyddau o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014;
- newidiadau i Ganllawiau Statudol Rhan 9 ynglŷn â Threfniadau Partneriaeth sydd wedi’u cynllunio i gryfhau trefniadau Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol i gefnogi a chryfhau’r cydweithio rhwng awdurdodau lleol a’r GIG;
- newidiadau i God Ymarfer Rhan 8 ar rôl Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Rheoliadau Adroddiadau Blynyddol Gwasanaethau Cymdeithasol Awdurdodau Lleol; a
- Fframwaith Tâl a Dilyniant drafft ar gyfer y gweithlu gofal cymdeithasol a ddatblygwyd gan y Fforwm Gwaith Teg Gofal Cymdeithasol.
I helpu i gyflawni ein nod o gryfhau trefniadau partneriaeth rhanbarthol a rôl y Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol, rydym hefyd yn cynnig gwelliannau i Reoliadau Trefniadau Partneriaeth (Cymru) 2015 yn ymwneud ag amcanion, aelodaeth a rhai materion eraill yn ymwneud â’r Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol e.e. hunanasesiadau ac adroddiad blynyddol a gwelliant i Reoliadau Gofal a Chymorth (Cynllunio Ardal) (Cymru) 2017 yn ymwneud â chynlluniau cyflawni blynyddol. Pan fyddwn ni wedi ystyried yr ymatebion i’r prif ymgynghoriad Ailgydbwyso, ein bwriad yw cynnal ymgynghoriad byr, wedi’i dargedu, ar setiau drafft o’r rheoliadau diwygiedig hyn yn nes ymlaen yn y flwyddyn.
Mae ein holl gynigion ar gyfer yr ymgynghoriad wedi’u llywio gan ymgysylltiad a chyd-gynhyrchu helaeth â rhanddeiliaid, gan gynnwys drwy wahanol Grwpiau Technegol a Grwpiau Gorchwyl a Gorffen. Byddwn yn parhau i ymgysylltu’n llawn gyda rhanddeiliaid a dinasyddion drwy gydol y broses ymgynghori, gan gynnwys mewn digwyddiadau ymgynghori wyneb yn wyneb sydd wedi’u cynllunio ar gyfer dechrau’r haf. Bydd manylion ar gael yn fuan.
Mwy Gwyboadaeth.
Gallwch ddarllen datganiad y Dirprwy Weinidog yma a darganfod mwy am ein gwaith i wella gofal cymdeithasol yng Nghymru drwy glicio ar y dolenni canlynol:
- Canllawiau a gwasanaethau gofal cymdeithasol:
https://www.llyw.cymru/gofal-cymdeithasol
https://www.gov.wales/social-care
- Codau ymarfer gofal cymdeithasol:
https://www.llyw.cymru/codau-ymarfer-y-gwasanaethau-cymdeithasol
https://www.gov.wales/social-services-codes-practice
- Sefydlu gwasanaeth gofal a chymorth cenedlaethol i Gymru:
https://www.llyw.cymru/sefydlu-gwasanaeth-gofal-chymorth-cenedlaethol
https://www.gov.wales/establishing-national-care-and-support-service
- Llofnodi datganiad rhai sy’n gadael gofal:
https://www.llyw.cymru/datgan-diwygiad-radical-o-ofal-plant-phobl-ifanc
https://www.gov.wales/declaration-radical-reform-children-and-young-peoples-care
- Canllawiau cenedlaethol sy’n rhoi cyngor a chymorth i deuluoedd lle mae gan riant anabledd dysgu:
Advice for social workers for families where the parent has a learning disability | GOV.WALES
- Adolygiad Diogelu Unedig Sengl:
Adolygiad Diogelu Unedig Sengl | LLYW.CYMRU
Single Unified Safeguarding Review | GOV.WALES
o Ymgynghoriad (yn cau 9 Mehefin):
Canllawiau Statudol Adolygu Diogelu Unedig Sengl (ADUS) | LLYW.CYMRU
Single Unified Safeguarding Review (SUSR) draft statutory guidance | GOV.WALES
o Fideo sy’n cyflwyno’r broses Adolygiad Diogelu Unedig Sengl:
Fideo sy’n cyflwyno’r broses Adolygiad Diogelu Unedig Sengl. - YouTube
Video introducing the Single Unified Safeguarding Review process. - YouTube
o Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol – cyflwyniad i’r Adolygiad Diogelu Unedig Sengl:
Ymgynghoriad cyhoeddus arganllawiau statudol yrAdolygiad Diogelu Unedig Unigol - YouTube
Public consultation on the Single Unified Safeguarding Review statutory guidance - YouTube