Helpwch Iechyd Cyhoeddus Cymru i gyrraedd gwirfoddolwy

Mae cefnogaeth a arweinir gan y gymuned wedi bod yn hynod werthfawr yn ystod pandemig COVID-19, gan fod y nifer uchaf erioed o bobl yng Nghymru wedi cynnig cefnogaeth trwy wirfoddoli ffurfiol ac anffurfiol.

Mae'r gwirfoddolwyr hyn wedi rhoi o'u hamser mewn sawl ffordd wahanol a byddant wedi cael gwahanol cymhellion a heriau wrth helpu eraill.

I ddysgu mwy am brofiadau personol pobl, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru a phartneriaid wedi cynllunio arolwg 15 munud anhysbys i gasglu gwybodaeth a fydd yn helpu i adeiladu cymunedau cryfach a mwy gwydn yn y dyfodol.

Rydym yn gwybod bod eich amser yn werthfawr, ond byddem yn gwerthfawrogi'n fawr os y gallwch rannu'r ddolen ganlynol â'r gwirfoddolwyr ffurfiol ac anffurfiol yn eich rhwydweithiau.

https://bit.ly/3ezWtG4

Lle i gael hyd inni

Swyddfa Llandrindod

Unit 30
Ddole Road Industrial Estate
Llandrindod
Powys
LD1 6DF

01597 822 191

Swyddfa'r Drenewydd

Plas Dolerw
Milford Road
Drenewydd
Powys
SY16 2EH

01686 626 220

Cysylltu

Authentication

Trusted Charity