Mae dwy flynedd wedi mynd heibio ers y gwobrau cyntaf, ac yn yr amser hwnnw, mae’r sector gwirfoddol wedi dod yn fwy hanfodol fyth. Yng ngŵydd argyfyngau lluosog sydd wedi effeithio ar ein cymdeithas, mae elusennau a gwirfoddolwyr wedi cyd-dynnu i wneud gwahaniaeth i fywydau pobl ar hyd a lled Cymru.
O gymunedau yn trefnu i ddiogelu eu pobl fwyaf agored i niwed drwy lifogydd a chyfnodau clo, i fudiadau a newidodd eu gwasanaethau i fwydo eu cymunedau yn ystod y pandemig, mae ein sector gwirfoddol wedi profi dro ar ôl tro ei fod yn rym hanfodol ar gyfer datblygu a newid yng Nghymru.
Ni allai’r amseru fod yn well, yn ein tyb ni, i Wobrau Elusennau Cymru ddychwelyd a sicrhau bod y bobl a’r mudiadau ysbrydoledig hyn yn cael y gydnabyddiaeth y maen nhw’n eu haeddu.
Gwobrau ‘Gwirfoddolwr y Flwyddyn’ a ‘Gwirfoddolwr Ifanc y Flwyddyn’
Bydd y wobrau hon yn mynd i unigolion eithriadol sy’n gwneud cyfraniad arbennig iawn at y gymuned neu’r amgylchedd drwy wirfoddoli.
Gall fod y gwirfoddolwr sy’n arwain ac yn ysbrydoli eraill, neu sy’n ymdrechu’n ddiflino i ‘fynd â’r maen i’r wal’, neu gall fod yr un y tu ôl i’r llenni sy’n dal popeth gyda’i gilydd.
Bydd y categori hwn yn canolbwyntio ar y gwahaniaeth positif sydd wedi’i gyflawni, yn hytrach nag ar am faint o amser y mae rhywun wedi bod yn gwirfoddoli.
Felly, os ydych chi'n adnabod gwirfoddolwr neu wirfoddolwr ifanc (25 oed neu iau) sy'n cyd-fynd â'r disgrifiad hwn, enwebwch nhw yng Ngwobrau Elusennau Cymru heddiw!
Y dyddiad cau ar gyfer derbyn enwebiadau yw 20 Medi 2022. I gael rhagor o wybodaeth a sut i enwebu, ewch i www.gwobrauelusennau.cymru