Gwella canlyniadau canser y coluddyn yng Nghymru.

Sut allwn ni wella lefelau goroesi canser y coluddion yng Nghymru? Rhannwch eich barn

Mae Moondance Cancer Initiative, ar y cyd â thîm ymchwil y GIG Cedar a Bowel Cancer UK, yn lansio prosiect i geisio deall sut ellir gwella lefelau goroesi canser y coluddion yng Nghymru ac maent yn chwilio am bobl a effeithiwyd gan y clefyd i gymryd rhan.

Canser y coluddion yw’r canser sy’n lladd yr ail nifer fwyaf o bobl yng Nghymru, ond ni ddylai fod gan y gellir ei drin a’i wella, yn enwedig os ceir diagnosis cynnar. Mae bron pawb yn goroesi canser y coluddion os ceir diagnosis ar y cyfnod cynharaf, ond mae hyn yn lleihau’n sylweddol wrth i’r clefyd ddatblygu. Pe baem yn cael popeth yn iawn gydag atal, sgrinio a gofal canser y coluddion, mae mwy a mwy o dystiolaeth ledled y byd y gallem leihau’n fawr iawn nifer y bywydau sy’n cael eu torri’n fyr gan y clefyd.

Mae’r prosiect yn chwilio am bobl a effeithiwyd gan ganser y coluddion, gan gynnwys aelodau’r teulu, i rannu eu profiadau ynghyd â syniadau a meddyliau ar sut ellir gwella gofal canser y coluddion er mwyn deall a allem symud tuag at flwyddyn yng Nghymru heb unrhyw farwolaethau canser y coluddion. Mae hwn yn gyfle i ddweud eich dweud ar ddatblygu gwasanaethau yng Nghymru a helpu llunio a dylanwadu ar y ffordd mae gofal yn datblygu ar draws y wlad. Bydd yr arolwg yn cau ar ddydd Llun 18 Ebrill 2022.

Yna gwahoddir detholiad o bobl i gymryd rhan mewn cyfweliadau rhithiol neu ffôn rhwng Ebrill a Gorffennaf ac fe gynhelir grwpiau trafod rhithiol yn ddiweddarach yn y flwyddyn.

Bydd y tîm prosiect yn mynd â’r wybodaeth a gasglwyd gan bobl a effeithiwyd gan ganser y coluddion at nifer o weithwyr gofal iechyd proffesiynol a gwneuthurwyr penderfyniadau i gael eu mewnbwn hwythau, cyn i Moondance Cancer Initiative dynnu popeth at ei gilydd i greu ‘map ffordd’  ar gyfer gwella lefelau goroesi canser y coluddion yng Nghymru.

Os ydych yn byw yng Nghymru ac y cawsoch eich effeithio gan ganser y coluddion, llanwch yr arolwg heddiw (dyddiad cau dydd Llun 18 Ebrill): https://cardiff.onlinesurveys.ac.uk/arolwg-canser-y-coluddyn

 

Lle i gael hyd inni

Swyddfa Llandrindod

Unit 30
Ddole Road Industrial Estate
Llandrindod
Powys
LD1 6DF

01597 822 191

Swyddfa'r Drenewydd

Plas Dolerw
Milford Road
Drenewydd
Powys
SY16 2EH

01686 626 220

Cysylltu

Authentication

Trusted Charity