Gweledigaeth ar gyfer y Dyfodol – rydym am gael eich barn.

Mae gweledigaeth newydd gan Gyngor Sir Powys ar gyfer y dyfodol, ac mae'n eithaf syml - Cryfach Tecach Gwyrddach.

Mae'r weledigaeth yn syml ond ni fydd ei chyflawni yn hawdd a bydd yn sicr o herio'r cyngor sir mewn mwy o ffyrdd nag erioed o'r blaen.

"Mae'r cabinet wedi bod yn trafod y weledigaeth ers yr haf, dyma fydd sylfaen y Cynllun Corfforaethol a Chydraddoldeb Strategol, y cynllun pwysicaf i'r cyngor sir am y pum mlynedd nesaf," meddai'r  Cynghorydd James Gibson-Watt, Arweinydd y Cyngor a'r Cynghorydd Matthew Dorrance, Dirprwy Arweinydd y Cyngor.

"Ond mae’n rhaid i’r weledigaeth i fod yn fwy na datganiad brandio y gellir ei ysgrifennu ar ochr cerbyd cyngor - mae'n ymrwymiad i gymunedau a phobl Powys, ac rydym am wybod beth yw eich barn chi.

"Beth mae’r datganiad Cryfach Tecach Gwyrddach yn ei olygu?

Cryfach – Byddwn yn dod yn sir sy'n llwyddo gyda'i gilydd, gyda chymunedau a phobl â chysylltiadau da yn gymdeithasol, ac sy'n gadarn yn bersonol ac yn economaidd

Tecach - Byddwn yn Gyngor agored, sy'n cael ei redeg yn dda, lle mae lleisiau pobl yn cael eu clywed ac yn helpu i lywio ein gwaith a'n blaenoriaethau, gyda mynediad tecach, mwy cyfartal at wasanaethau a chyfleoedd.  Byddwn yn gweithio i fynd i’r afael â thlodi ac anghydraddoldeb i gefnogi lles pobl.

Gwyrddach - Rydym am sicrhau dyfodol gwyrddach i Bowys, lle mae ein lles wedi’i chysylltu â’r byd naturiol, ac mae ein hymateb i'r argyfyngau hinsawdd a bioamrywiaeth wrth wraidd popeth a wnawn.

"Yn atgyfnerthu’r tri amcan mae dull a fydd yn gweld yr hinsawdd, natur a chydraddoldeb yn llinyn allweddol trwy bopeth a wnawn fel sefydliad, gan gryfhau’r broses o wneud penderfyniadau sefydliadol trwy ddeall y materion mwyaf arwyddocaol sy'n effeithio ar Bowys.

"Mae gennym syniad clir ynglŷn â’r hyn y mae ein gweledigaeth yn ei olygu ond ni allwn weithredu ar ein pennau ein hunain mae angen cefnogaeth ein cymunedau.  Rhowch eich barn ar ein gweledigaeth, ydy hi’n iawn i Bowys, a allwn ei chryfhau, ydyn ni wedi methu elfennau allweddol, mae angen eich barn arnom," ychwanegodd y ddau.

Sut i gymryd rhan:

Y dyddiad cau i gyflwyno eich adborth i ni yw 23 Rhagfyr 2022.

 

Lle i gael hyd inni

Swyddfa Llandrindod

Unit 30
Ddole Road Industrial Estate
Llandrindod
Powys
LD1 6DF

01597 822 191

Swyddfa'r Drenewydd

Plas Dolerw
Milford Road
Drenewydd
Powys
SY16 2EH

01686 626 220

Cysylltu

Authentication

Trusted Charity