Dymunwn glywed meddyliau, profiadau a phryderon pobl leol ynghylch diogelwch personol.
Bydd yr wybodaeth a roddwch i ni’n cael ei defnyddio i oleuo datblygiadau ar gyfer sut bydd y llwybr rhwng y Drenewydd a Llanllwchaearn yn edrych ar yn gweithio yn y dyfodol. Bydd y pryderon, y syniadau a’r atebion a gaiff eu codi hefyd yn ffurfio sail ar gyfer pecyn adnodau diogelwch Menywod, a fydd yn cael ei ddefnyddio i gefnogi gwelliannau diogelwch ehangach ar lwybrau cerdded, olwyno a beicio ledled Cymru.
Gweithdai
Mae croeso i bawb ymuno â’r sgwrs ac fe hoffem glywed syniadau a phrofiadau o bob rhan o’r gymuned. I wneud hyn, rydym yn cynnal cyfres o weithdai galw i mewn:
- Gweithdy 1: 6:30pm – 8:30pm, Dydd Mercher 15fed Mehefin, Canolfan Gymuned Northside.
Hoffem i chi nodi mannau ble’r ydych yn teimlo’n anniogel a thrafod pam rydych yn teimlo fel hyn. - Gweithdy 2: 6:30pm – 8:30pm, Dydd Mawrth 28ain Mehefin, Canolfan Gymuned Northside.
Helpwch ni i ganfod atebion a allai fynd i’r afael â’r pryderon a’r problemau a nodwyd yng ngweithdy un. - Gweithdy 3: O Haf 2022 ymlaen – Lleoliad i’w gadarnhau.
Dewch i gymryd rhan mewn gwerthuso’r awgrymiadau a wnaed yng ngweithdai un a dau. Hoffem i chi roi eich adborth am y syniadau hyn a dweud wrthym ba rai yr hoffech eu gweld yn cael eu gwireddu.
Rydym hefyd yn gweithio mewn partneriaeth â grwpiau menywod lleol i ddarparu gweithdy ar gyfer merched yn unig ar gyfer y rhai a fyddai’n teimlo’n fwy cyfforddus yn cyfranogi mewn sesiwn ble mai dim ond menywod sy’n bresennol.
I gael rhagor o wybodaeth am hyn a ffyrdd eraill o gymryd rhan, ewch i dudalen y prosiect: www.sustrans.info/SaferNewtown