Rydyn ni'n deall pwysigrwydd llesiant y gweithlu gofal cymdeithasol i gyflawni'r canlyniadau gorau ar gyfer y bobl sy'n derbyn gofal a chymorth. Dyma pam yr ydyn ni wedi rhoi iechyd a llesiant wrth galon strategaeth ein gweithlu ac rydyn ni’n datblygu fframwaith i bennu safonau clir a mesuradwy ar gyfer sut y dylid diogelu'r gweithlu.
Rydyn ni wedi comisiynu Practice Solutions Cyf er mwyn cysylltu â phob rhan o’r gweithlu i gasglu eich barn a’ch syniadau i’n helpu i ddatblygu fframwaith iechyd a llesiant cenedlaethol.
Bydd Practice Solutions yn rhedeg digwyddiadau trafodaethau grŵp rhithwir rhanbarthol a chenedlaethol, a elwir yn sesiynau panel safbwynt y gweithlu, o 1 i 15 Rhagfyr.
Bydd uchafswm o 12 o bobl yn y sesiynau hyn, ac ni fyddant yn para fwy nag un awr a hanner. Cynhelir y sesiynau ar-lein, gan ddefnyddio Zoom. Gallwch gofrestru i fynychu'r sesiynau hyn trwy wefan Practice Solutions.