I ddarllen datganiad y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, ewch i:
Rydym yn ymgynghori ar gynigion deddfwriaethol mewn pedwar maes:
- dileu elw o ofal plant sy'n derbyn gofal, gan ganolbwyntio ar bobl ifanc sydd mewn gofal preswyl preifat a gofal maeth annibynnol;
- cyflwyno taliadau uniongyrchol i oedolion sy'n gymwys i gael Gofal Iechyd Parhaus y GIG;
- mewn egwyddor, estyn y gofyniad gorfodol i hysbysu am blant ac oedolion sy’n wynebu risg, fel ei fod yn berthnasol i unigolion mewn cyrff perthnasol;
- diwygio’r drefn reoleiddio ar gyfer darparwyr gwasanaethau, unigolion cyfrifol a'r gweithlu gofal cymdeithasol. Mae hyn yn cynnwys estyn y diffiniad o 'weithiwr gofal cymdeithasol' i gynnwys gweithwyr gofal plant a chwarae.
Mae crynodeb o'r cynigion a gwybodaeth am sut i ymateb wedi’i atodi i’r e-bost hwn.
Mae ein dogfen ymgynghori yn nodi'r manylion ac yn gofyn cwestiynau cysylltiedig. Mae’r rhain i’w gweld yma:
Byddem yn croesawu eich barn ar bob un neu unrhyw un o'r cynigion erbyn hanner nos, nos Lun 7 Tachwedd 2022.