Helo, Donna ydw i o Ganolfan Cydweithredol Cymru ac rwy’n gobeithio siarad â chi am ofal cymdeithasol a gwerth cymdeithasol, darparu gwasanaethau a llesiant.
1. Ydych chi'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol a/neu'n weithgar wrth helpu pobl i fodloni eu llesiant?
- Mae Canolfan Cydweithredol Cymru yn helpu comisiynwyr gofal cymdeithasol i fuddsoddi mwy mewn modelau gwerth cymdeithasol o ddarparu gwasanaethau. Rydym yn gweithio gyda gweision sifil Llywodraeth Cymru yn y tîm Gwasanaethau Cymdeithasol ac Integreiddio.
2. A yw eich sefydliad yn defnyddio model darparu gwerth cymdeithasol ar gyfer gwasanaethau?
- Os ydych yn dda am gyflawni egwyddorion y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant, yna rydych yn debygol o fod yn defnyddio model darparu gwerth cymdeithasol.
3. Mae gwasanaeth yn fodel gwerth cymdeithasol os yw'n gwneud nifer o'r pethau hyn - egwyddorion y Ddeddf:
- Canlyniadau llesiant – gwneud yr hyn sy'n bwysig gyda phobl fel y maent wedi'i ddiffinio.
- Cydgynhyrchu, llais a rheolaeth – mae gan bobl sy'n defnyddio gwasanaethau lais a rheolaeth gref.
- Cydweithio a chydweithredu – sefydliadau'n gweithio gyda'i gilydd er budd gwell i bobl a'n cymunedau.
- Atal – meddwl yn y tymor hir a gweithredu i leihau neu osgoi dibynnu ar wasanaethau.
- Gwerth ychwanegol – ymdrechu i fynd y tu hwnt i gyflawni contract yn unig. Gall y gwerth ychwanegol fod yn gymdeithasol, yn amgylcheddol ac/neu'n economaidd.
4. Os ydych chi’n defnyddio model darparu gwerth cymdeithasol, gallwn eich helpu i ledaenu'r arferion da ac agor cyfleoedd pellach.
- Mae gwaith ar y gweill i baratoi a chyhoeddi 'adroddiadau ar sefydlogrwydd y farchnad' ar ddarparu gwasanaethau gofal a chymorth yn lleol.
- Rhaid i fodelau darparu gwerth cymdeithasol gael sylw mewn marchnadoedd a gwasanaethau lleol. Mae ein prosiect yn cynnwys siarad â chomisiynwyr am yr adroddiadau.
5. A wnewch chi gysylltu â mi i weld sut y gallwn ni gydweithio? Neu os hoffech gael rhagor o wybodaeth am fodelau darparu gwerth cymdeithasol, cysylltwch â mi - donna.coyle(at)wales.coop