Elusennau cenedlaethol yn lansio arolwg i bobl hŷn sy’n gofalu am anwyliaid

Dymuna Age Cymru ac Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru ddeall yn well anghenion gofalwyr ‘cudd’

Lansiodd Age Cymru ac Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru ar Ddiwrnod Hawliau Gofalwyr (26 Tachwedd) arolwg Cymru gyfan fel rhan o’u prosiect partneriaeth a ariennir gan Lywodraeth Cymru. Bydd yr arolwg yn helpu i ddarparu gwell dealltwriaeth o anghenion pobl 50 oed neu hŷn sy’n darparu cymorth di-dâl i deulu neu ffrindiau ond nad ydynt yn manteisio ar unrhyw wasanaethau, gwybodaeth neu gyngor. 

Os ydych yn gofalu am aelod o’r teulu, cymydog neu ffrind ac nid ydych yn manteisio ar unrhyw gymorth i’ch helpu yn y rôl hon, hoffem eich gwahodd i gwblhau ein harolwg ar-lein yn https://www.ageuk.org.uk/cymru/our-work/carers/carers-survey/ 

neu cysylltwch â ni am fersiwn bapur y gallwch ei hanfon yn ôl atom am ddim. Neu os byddai’n well gennych siarad â ni am eich profiadau, gallwn hefyd ddarparu gwybodaeth a gwybodaeth am atgyfeirio i’ch cefnogi fel rhan o’r sgwrs hon. 

Luke Conlon, Swyddog Prosiect Gofalwyr, 

e-bostiwch luke.conlon(at)agecymru.org.uk neu ffoniwch 07989 152529 

Lle i gael hyd inni

Swyddfa Llandrindod

Unit 30
Ddole Road Industrial Estate
Llandrindod
Powys
LD1 6DF

01597 822 191

Swyddfa'r Drenewydd

Plas Dolerw
Milford Road
Drenewydd
Powys
SY16 2EH

01686 626 220

Cysylltu

Authentication

Trusted Charity