Maent wedi lansio arolwg yn ddiweddar fel rhan o’r gwaith hwn, i gasglu adborth ar yr hyn sydd wedi cael yr effaith fwyaf yn ystod y saith mlynedd gyntaf ers i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol ddod yn gyfraith, beth ddylai’r blaenoriaethau fod ar gyfer gwaith y tîm yn y dyfodol a'r dull gorau i'w gymryd i gyflawni'r mwyaf gyda'u hadnoddau.
Mae'r arolwg yn fyw tan y 3ydd o Orffennaf, plis cwblhewch i rannu eich barn, a'i ddosbarthu i'ch rhwydweithiau.
Arolwg Saesneg: bit.ly/ourfuturefocus
Arolwg Cymraeg: bit.ly/ffocwseindyfodol
Mae’r dolenni a hefyd gwybodaeth bellach ar sut i’w llenwi (sy’n egluro llwybr cwestiynau ar gyfer gwahanol gynulleidfaoedd, er enghraifft, gan gynnwys y cyhoedd) hefyd ar dudalen lanio Ffocws Ein Dyfodol. ac ar ein cyfryngau cymdeithasol @futuregencymru.