Dweud eich dweud! Helpwch i lunio dyfodol eich Gwasanaeth Tân ac Achub!

A wyddoch chi fod ardal Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru bron yn 12,000 cilomedr sgwâr – sef bron i ddwy ran o dair o Gymru?

Mae'r Gwasanaeth yn gyfrifol am ddarparu gwybodaeth diogelwch i'r cyhoedd, rhaglenni atal ac amddiffyn, a darpariaeth ymateb brys ar gyfer ardal canolbarth a gorllewin Cymru. Byddem wrth ein bodd yn clywed eich barn ar beth yw eich disgwyliadau o'r Gwasanaeth, yn ogystal â'r hyn sy'n bwysig i chi a'r hyn y credwch y dylem ei flaenoriaethu. Felly, beth am gymryd rhan yn y drafodaeth a rhannu eich barn ar y gwerth a roddwch ar y gwasanaethau a ddarparwn, a'r hyn y dylem ei wneud i'w diogelu?

Gwerthfawrogir eich cymorth a'ch cefnogaeth a bydd cwblhau'r arolwg hwn yn ein helpu i gasglu gwybodaeth am y cymunedau yr ydym yn ymgysylltu â nhw, a fydd yn ein helpu i deilwra ein gwasanaethau yn briodol, gan ein galluogi i ddarparu'r gwasanaeth gorau posibl i'r cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu.

Mae'r ffurflen yn ddienw ac yn gyfrinachol, felly ni fyddwch yn cael eich adnabod gan unrhyw wybodaeth a roddir. Os hoffech gael yr holiadur hwn mewn iaith/fformat gwahanol, cysylltwch â ni ar 0370 6060699.

Rydym yn cydnabod bod gwrando ar eich barn yn hanfodol os yw'r Gwasanaeth am barhau i ddarparu gwasanaeth effeithiol, effeithlon a gwell i'ch cadw chi a'ch teuluoedd yn ddiogel. Cymerwch ran yn y drafodaeth trwy rannu eich barn ar ddyfodol eich Gwasanaeth Tân ac Achub. I gael gwybod mwy a chymryd rhan yn ein harolwg ar-lein ewch i'n gwefan Dweud eich dweud - Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (tancgc.gov.uk)

Lle i gael hyd inni

Swyddfa Llandrindod

Unit 30
Ddole Road Industrial Estate
Llandrindod
Powys
LD1 6DF

01597 822 191

Swyddfa'r Drenewydd

Plas Dolerw
Milford Road
Drenewydd
Powys
SY16 2EH

01686 626 220

Cysylltu

Authentication

Trusted Charity