Dweud eich dweud ar ‘Strategaeth Arloesi newydd Cymru’

Estynnir gwahoddiad ichi gymryd rhan mewn darn pwysig o waith sy’n cael ei gyflawni dros yr wythnosau nesaf, a fydd, gobeithio, o ddiddordeb ichi.

Mae Llywodraeth Cymru’n datblygu Strategaeth Arloesi newydd i Gymru.

Trwy adeiladu ar ymchwil byd-eang a dysg a barn a rennir gan unigolion, sefydliadau a chymunedau ledled Cymru, bydd y strategaeth yn olrhain cyfeiriad clir ar gyfer y dyfodol a blaenoriaethau cyffredin ar gyfer arloesi yng Nghymru yn y blynyddoedd sydd i ddod.

Byddem yn hoffi eich gwahodd i gyfrannu at y gwaith parhaus yma, ac i rannu eich barn ar yr hyn, yn eich barn chi, a ddylai digwydd, i ganiatáu i fwy o bobl arloesi, a galluogi mwy o bobl i elwa o arloesi.

Bydd eich cyfraniadau’n hysbysu’n uniongyrchol datblygiad y strategaeth hon, ac yn helpu sicrhau ei bod yn addas i bob cymuned, ym mhob rhan o Gymru.

Gallwch chi, eich cydweithwyr a’ch rhwydweithiau ymuno â’r sgwrs mewn nifer o ffyrdd syml cyn y dyddiad cau, sef 29ain Ebrill:

1.. Cwblhau’r arolwg syml: Naill ai drwy rannu eich syniadau, sylwadau a phrofiadau chi, neu drwy drafod y cwestiynau hyn gyda’ch cydweithwyr a chymunedau, a rhannu eich ymatebion ar y cyd. Dolen i’r arolwg fan hyn: https://forms.office.com/r/suDV5xDLr0 . (Mae’r arolwg yn cynnwys yr egwyddorion cyffredin sy’n llywio datblygiad y strategaeth, i’ch helpu ystyried yr effaith botensial, ar eich cyfer chi, eich sefydliad neu’ch cymuned).

2. Sgwrsio gyda ni: Os byddai’n well gennych siarad gyda ni, gallwch roi gwybod inni drwy ymateb i’r ebost hwn. Byddwn yn trefnu dyddiad ac amser sy’n gyfleus ichi, neu byddem yn hapus i ymuno â chyfarfod rhithiol o’ch tîm neu gymuned i drafod pethau gyda’n gilydd.

Mae’r gweithgareddau hyn yn cael eu rhedeg gan Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru ar ran Llywodraeth Cymru. Os hoffech drafod y gwaith yn fwy manwl, neu os oes gennych unrhyw gwestiynau mewn perthynas â’r uchod, croeso ichi gysylltu â ni drwy e-bostio: rox@copronet.wales.

I gael y newyddion diweddaraf a gwybodaeth bellach am y strategaeth a’i datblygiad, dilynwch y ddolen hon https://businesswales.gov.wales/innovation/innovation-strategy .

Croeso ichi rannu’r cyfle gyda’ch ffrindiau, cymdogion a chydweithwyr.

Lle i gael hyd inni

Swyddfa Llandrindod

Unit 30
Ddole Road Industrial Estate
Llandrindod
Powys
LD1 6DF

01597 822 191

Swyddfa'r Drenewydd

Plas Dolerw
Milford Road
Drenewydd
Powys
SY16 2EH

01686 626 220

Cysylltu

Authentication

Trusted Charity