Bydd y diwygiadau a gynigir yn gwella ansawdd a lefel yr ailgylchu a wneir gan fusnesau, y sector cyhoeddus a’r trydydd sector yng Nghymru trwy sicrhau eu bod yn gwahanu deunydd i’w hailgylchu yn yr un ffordd y mae’r rhan fwyaf o aelwydydd yng Nghymru eisoes yn ei wneud.
Bydd hyn yn gyfraniad anferth i’r hyn rydyn ni’n ei wneud o ran yr argyfyngau hinsawdd a natur, gan wireddu ein hymrwymiad yn Ailgylchu a Mwy a Sero Net Cymru gan roi’r diwygiadau ar waith i sicrhau arbedion carbon a buddiannau i’r economi.
Rydym yn croesawu eich barn ar yr ymgyngoriadau canlynol: • Ymgynghoriad ar Gasglu Deunyddiau Gwastraff Ar Wahân i’w Hailgylchu – Cod Ymarfer Cymru (Ymgynghoriad Cymraeg) (Ymgynghoriad Saesneg) • Ymgynghoriad ar gynigion i orfodi’r Rheoliadau Ailgylchu ar gyfer y Sector Busnes, y Sector Cyhoeddus a’r Trydydd Sector yng Nghymru (Ymgynghoriad Cymraeg) (Ymgynghoriad Saesneg)
Dogfen gysylltiedig: • Casglu Deunyddiau Gwastraff Ar Wahân i’w Hailgylchu – Cod Ymarfer Cymru (Cymraeg) (Saesneg)
Yn dilyn ein dau ymgynghoriad yn 2013/14 ac yn 2019, nod yr ymgyngoriadau hyn yw ceisio barn ynghylch manylion y cod ymarfer (“y cod”) drafft a’r canllawiau ymarferol y mae’n eu darparu ar sut i fodloni’r gofynion gwahanu; y bwriad arfaethedig i gyflwyno’n raddol ffrydiau gwastraff penodol; a chynigion ar gyfer gorfodi’r Rheoliadau Ailgylchu ar gyfer y Sector Busnes, y Sector Cyhoeddus a’r Trydydd Sector. Mae eich adborth yn hanfodol i lywio drafft terfynol o’r cod a’r rheoliadau arfaethedig
Bydd yr ymgyngoriadau ar agor am gyfnod o 12 wythnos a byddant yn cau ddydd Mercher 15 Chwefror 2023. Ar ôl ystyried yr holl ymatebion, bydd crynodeb o’r ymatebion yn cael ei gyhoeddi ar ein gwefan.
Dylid anfon unrhyw ymholiadau at flwch negeseuon e-bost Ymgyngoriadau Diwygiadau Ailgylchu / Recycling Reforms Consultations: YmgyngoriadauDiwygiadauAilgylchu(at)llyw.cymru