Diweddariad ar Adolygiad Gwasanaeth Adalw a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS)

Cyfarfu Bwrdd Bwrdd Iechyd Addysgu Powys ddydd Iau 11 Ebrill i drafod ac ystyried argymhellion wedi'u diweddaru gan Adolygiad Gwasanaeth Adalw a Throsglwyddo Meddygol Brys GIG Cymru

Cyfarfu Bwrdd Bwrdd Iechyd Addysgu Powys ddydd Iau 11 Ebrill i drafod ac ystyried argymhellion wedi'u diweddaru gan Adolygiad Gwasanaeth Adalw a Throsglwyddo Meddygol Brys GIG Cymru.

Derbyniodd y Bwrdd yr achos dros newid ac roedd yn cydnabod pwysigrwydd hanfodol mynd i'r afael â lefel yr angen nas diwallwyd a nodwyd gan yr adolygiad, a hefyd i sicrhau bod y dull arfaethedig yn mynd i'r afael yn ddigonol â'r pryderon a godwyd gan breswylwyr a rhanddeiliaid gan gynnwys Llais, Corff Llais y Dinesydd dros iechyd a gofal yng Nghymru.

Cytunodd y Bwrdd bod angen rhagor o fanylion mewn perthynas ag Argymhelliad 4 ac nad oeddent mewn sefyllfa ar hyn o bryd i gefnogi'r argymhellion.

Mae'r saith bwrdd iechyd wedi cyfarfod i ystyried adolygiad EMRTS, a bydd eu barn benodol yn cael ei hystyried mewn cyfarfod cyhoeddus o Gyd-bwyllgor Comisiynu GIG Cymru ar 23 Ebrill 2024.

Y CBC yw’r pwyllgor cenedlaethol newydd sy’n disodli’r Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys, Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, a’r Uned Gomisiynu Cydweithredol Genedlaethol o 1 Ebrill.

Bydd agenda a phapurau cyfarfod y Cydbwyllgor Comisiynu (CBC) ar gael cyn y cyfarfod ar wefan y CBC.

 

Lle i gael hyd inni

Swyddfa Llandrindod

Unit 30
Ddole Road Industrial Estate
Llandrindod
Powys
LD1 6DF

01597 822 191

Swyddfa'r Drenewydd

Plas Dolerw
Milford Road
Drenewydd
Powys
SY16 2EH

01686 626 220

Cysylltu

Authentication

Trusted Charity