Mae Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar: ddiwygio’r ddeddfwriaeth ddigartrefedd graidd bresennol: rôl gwasanaeth cyhoeddus Cymru o ran atal digartrefedd; cynigion wedi'u targedu i atal digartrefedd ar gyfer y rhai yr effeithir arnynt yn anghymesur; mynediad i dai; a gweithredu.
Mae'r cynigion yn canolbwyntio ar wella mesurau atal ac ar ymyriadau cynnar, trwy gyflwyno pecyn o ddiwygiadau fydd yn gweddnewid y system bresennol yng Nghymru ar gyfer ymdrin â digartrefedd a thai.
Drwy ddiwygio deddfwriaeth, dywed Llywodraeth Cymru:
- Caiff y risg o ddigartrefedd ei hatal mor gynnar â phosibl a bydd pob rhan o'r gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn rhannu'r cyfrifoldeb am ganfod ac atal digartrefedd;
- Bydd Awdurdodau Tai Lleol yn cynnig gwasanaeth sy'n rhoi'r person a'i drawma yn gyntaf ac sy'n ymateb i anghenion y rhai sy'n wynebu digartrefedd;
- Bydd y rhai sydd fwyaf tebygol o ddioddef digartrefedd yn elwa ar gynigion pwrpasol i leihau eu risg.
Mae'r Papur Gwyn wedi'i seilio'n helaeth ar ganfyddiadau Panel Adolygu Arbenigol Annibynnol y gofynnwyd iddynt adolygu'r ddeddfwriaeth bresennol a gwneud argymhellion i Lywodraeth Cymru. Fel rhan o'r adolygiad hwn, mae dros 350 o bobl sydd â phrofiad byw o fod yn ddigartref wedi rhannu eu barn i helpu i ddatblygu'r cynigion.
Gallwch ddarllen y dogfennau ymgynghori sy’n nodi sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu rhoi terfyn ar ddigartrefedd yng Nghymru yma.
Gallwch ymateb ar-lein yma.
I ymateb trwy e-bost, awrlwythwch y ffurflen ymateb. Cwblhewch a dychwelyd i: DiwygioDeddfwriaethDigartrefedd(at)llyw.cymru
I ymateb drwy'r post, lawrlwythwch y ffurflen ymateb. Cwblhewch a dychwelyd i:
Tîm Deddfwriaeth Atal Digartrefedd
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ