Cynorthwywyr Personol yng Nghymru – rydyn ni'n awyddus i glywed gennych chi!

Mae ymchwil yn cael ei gynnal gan Brifysgol De Cymru (USW) a Data Cymru ar ran Llywodraeth Cymru (LlC) i wella'r wybodaeth a'r ddealltwriaeth am Gynorthwywyr Personol (PAs)

Bydd holl ddata'r arolwg yn aros yn anhysbys ac ni fydd ymatebion unigol yn cael eu rhannu â Llywodraeth Cymru. Ni fydd unrhyw wybodaeth a roddwch yn yr arolwg hwn yn cael unrhyw effaith ar eich sefyllfa unigol gyfredol.

I ddibenion yr arolwg hwn, mae unrhyw un sy'n cael eu talu'n uniongyrchol gan yr unigolyn, neu gan deulu agos, yr unigolyn maen nhw'n ei gynorthwyo yn cael ei ystyried fel Cynorthwywyr Personol. Os ydych chi'n credu eich bod yn Gynorthwyydd Personol, yna dyma'ch cyfle i gael dweud eich dweud.

Os gwelwch yn dda, wnewch chi gwblhau'r arolwg erbyn 17:00 ar ddydd Gwener 26 Tachwed. Os hoffech gael unrhyw wybodaeth bellach, neu os ydych chi'n cael unrhyw anhawster i gwblhau'r arolwg ar-lein, e-bostiwch surveys(at)data.cymru neu ffoniwch 029 2090 9500. Dylai'r arolwg hwn gymryd hyd at 30 munud i'w gwblhau. Cliciwch ar y ddolen isod i ddechrau'r arolwg.

https://www.smartsurvey.co.uk/s/CynorthwywyrPersonolYngNghymru_PersonalAssistantsInWales/

Rydyn ni hefyd wedi creu arolwg ar gyfer y bobl sy'n cyflogi Cynorthwywyr Personol yng Nghymru. Isod, rydyn ni wedi cynnwys y ddolen i'r arolwg hwnnw. Tybed allwch chi drosglwyddo'r arolwg hwn i'r rhai rydych chi'n eu cynorthwyo?

https://www.smartsurvey.co.uk/s/PoblSynCyflogiCynorthwywyrPersonol_PeopleWhoEmployPersonalAssistants

Lle i gael hyd inni

Swyddfa Llandrindod

Unit 30
Ddole Road Industrial Estate
Llandrindod
Powys
LD1 6DF

01597 822 191

Swyddfa'r Drenewydd

Plas Dolerw
Milford Road
Drenewydd
Powys
SY16 2EH

01686 626 220

Cysylltu

Authentication

Trusted Charity