Bydd y sylwadau yn dylanwadu ar waith ar gydraddoldeb o 2024 hyd at 2028, a sut mae pobl gyda nodweddion gwarchodedig yn cael eu heffeithio a’u trin wrth ddefnyddio gwasanaethau a ddarperir gan y sector.
Mae’r arolwg yn canolbwyntio ar brif feysydd megis addysg, tai, iechyd, troseddu, hamdden a mynediad at yr arfordir a chefn gwlad. Mae’n gofyn i bobl sgorio eu profiadau o’r gwasanaethau hyn a’u barn am y profiad mae pobl eraill yn ein cymdeithas yn ei gael.
Rhaid i bob corff cyhoeddus lunio Cynllun Cydraddoldeb Strategol sy’n nodi sut y bydd gwasanaethau’n cael eu darparu a’u bod yn hygyrch i bobl, beth bynnag yw eu hoedran, eu rhyw, eu rhywioldeb, eu crefydd, eu dewis iaith neu unrhyw anableddau sydd ganddynt.
Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn rhestru naw o nodweddion gwarchodedig. Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol wedi cyhoeddi adroddiad o’r enw ‘A yw Cymru’n Decach?’ (2018). Mae hwn yn nodi cyflwr y genedl wrth edrych ar grwpiau mwy bregus ein cymdeithas. Mae’r arolwg yn canolbwyntio ar y meysydd allweddol a restrir yn yr adroddiad.
Mae gan bob corff sector cyhoeddus ddyletswydd i wneud y canlynol:
- Dileu gwahaniaethu, aflonyddu ac erledigaeth
- Hybu cyfle cyfartal rhwng pobl sy’n rhannu nodwedd a warchodir perthnasol, a’r rheiny nad ydynt
- Meithrin perthnasau da rhwng pobl sy’n rhannu nodwedd a warchodir a’r rheiny nad ydynt
Ochr yn ochr â’r arolwg hwn byddwn yn ymgysylltu â grwpiau cymunedol penodol sy’n cynrychioli ac eirioli dros rhai o’r grwpiau nas clywir yn aml.