Er mwyn helpu gyda’r broses hon, fe fasen ni, fel CIC, yn ddiolchgar petaech chi’n gallu rhoi eich ymateb i’r cwestiynau canlynol erbyn 3ydd Ionawr 2021. Teimlwch yn rhydd i anfon yr e-bost hwn ymlaen at unrhyw fudiad neu gydweithwyr a fyddai’n elwa, yn eich tyb chi, o gael cymryd rhan yn yr arolwg hwn. Po fwyaf o ymatebion a gaiff CIC, po fwyaf cynhwysfawr fydd y Cynllun Gweithredol wrth symud ymlaen i 2021, a phoblogaeth Powys yn elwa fwyfwy fel canlyniad.
Amgaeaf ein Hadroddiad Blynyddol diweddaraf i weld beth wnaethom yn 2019 – 2020.
Er mwyn mynd at yr arolwg byr yn Gymraeg, cliciwch yma
Er mwyn mynd at yr arolwg byr yn Saesneg, cliciwch yma
Fel arall, os hoffech gopi caled o’r ddogfen hon, cysylltwch â:
Flora Buckle – Swyddog Monitro a Chraffu, trwy e-bostio flora.buckle(at)wales.nhs.uk
Mae CIC yn ddiolchgar am eich cymorth. Edrychwn ymlaen at glywed oddi wrthych erbyn 3ydd Ionawr 2021.