Mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn cynnal yr ymgynghoriad ar ran Llywodraeth Cymru.
Mae Llywodraeth Cymru'n cynnig pedwar opsiwn posibl i'w hystyried: plant a phobl ifanc, yr argyfwng hinsawdd a byd natur, cynhwysiant ariannol a gweithredu cymunedol. Mae'n annhebygol o allu ariannu'r pedwar opsiwn a bydd angen blaenoriaethu.
Mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau ar-lein ar bob un o’r pedwar maes rydym yn chwilio am eich barn arnynt. Ymunwch â ni i rannu eich syniadau a'ch profiadau.
Dydd Llun 5 Chwefror, 11:00 - 12:30 – Cefnogi
plant a phobl ifancDydd Llun 12 Chwefror, 2:00 - 3:30 – Mynd
i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd a naturDydd Iau 15 Chwefror, 10:30 - 12:00 – Hyrwyddo
cynhwysiant ariannolDydd Mercher 21 Chwefror, 10:30 - 12:00 – Datblygu
cyfalaf cymdeithasol i annog Cymru o gymunedau cydlynol
Bydd yr ymgynghoriad yn cau ar 28 Chwefror 2024. Gallwch ddarllen yr ymgynghoriad ac ymateb ar wefan Llywodraeth Cymru.
* Cynnyrch ariannol yw ased segur, megis cyfrif banc, nad yw'r cwsmer wedi'i ddefnyddio am flynyddoedd, ac nad yw'r darparwr wedi gallu cysylltu â nhw. Mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol wedi bod yn gyfrifol am ei ddosbarthu yng Nghymru, sydd wedi dod i gyfanswm o £28 miliwn ers sefydlu'r cynllun yn 2008.