Heddiw, (dydd Iau, 10 Rhagfyr) mae Cyngor sir Powys yn lansio ei ymarfer ymgysylltu ar ddiogelu dyfodol Powys.
Mae'r ymarfer ymgysylltu hwn yn canolbwyntio ar weledigaeth hir dymor ar gyfer y sir yn dilyn y pandemig Covid-19 ac mae barn ein trigolion yn bwysig i'n helpu i lunio hyn.
Dywedodd yr Arweinydd y Cynghorydd Rosemarie Harris a’r Cynghorydd Aled Davies, Dirprwy Arweinydd ac Aelod y Cabinet ar faterion Cyllid: “Bu’n rhaid i ni ddarparu gwasanaethau'n wahanol iawn eleni oherwydd y pandemig byd-eang, gan ganolbwyntio adnoddau ar ddarparu gwasanaethau hanfodol a gwarchod trigolion agored i niwed.
"Roedd angen cyllid brys i ofalu am bobl hŷn a phobl agored i niwed ac, ar yr un pryd, collwyd incwm o wasanaethau gwastraff masnachol, meysydd parcio, ceisiadau cynllunio a llawer o fesydd eraill.
“Amcangyfrifir y bydd cost ymateb i bandemig Covid-19 mewn gwariant ychwanegol ac incwm a gollwyd yn ystod chwe mis cyntaf y flwyddyn ariannol yn agos at £10m.
“Mae'r cyngor eisiau rhoi Powys ar y ffordd i adferiad drwy edrych ar sicrhau cydbwysedd rhwng anghenion tymor byr a hefyd diogelu anghenion tymor hir am ddyfodol cynaliadwy, gan gydnabod heriau ac effeithiau tymor hir posib Covid-19. Rhaid i ni ddeall eich barn chi am sut beth fydd y 'normal newydd' er mwyn i’r cyngor ddarparu gwasanaethau cynaliadwy ac effeithiol am y pump i 10 mlynedd nesaf.
“Mae dal i fod llawer o ansicrwydd am effaith ariannol hir dymor y pandemig a’r costau ariannol o ganlyniad i Covid-19.
“Fel cyngor agored a blaengar, rydym wedi croesawu dulliau newydd o weithio ac o ddarparu gwasanaethau ac rydym yn gweithio gyda chymunedau, trigolion, busnesau a sefydliadau partner i ddiogelu dyfodol Powys.”
Mae’r arolwg yn cynnwys meysydd megis ymateb i’r pandemig Covid-19, busnes a’r economi, iechyd a lles, mynediad cwsmeriaid i swyddfeydd y cyngor, digideiddio a lefelau treth y cyngor.
Gellir dod o hyd i’r ymarfer ymgysylltu yma https://haveyoursay.powys.gov.uk/cymraeg/ a’r dyddiad cau yw 20 Ionawr 2021.