Straeon y Gaeaf
Wrth i ni nesáu at aeaf anarferol iawn a allai fod yn anodd i bob un ohonom, hoffai Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru wneud yn siŵr bod lleisiau a phrofiadau pobl hŷn yn cael eu clywed, a bod modd eu defnyddio i sicrhau newid a gwelliannau.
Mae’r Comisiynydd yn chwilio am bobl hŷn i weithio gyda hi dros y misoedd nesaf a rhannu eu straeon personol am sut beth yw eu bywydau yn ystod y gaeaf - am y cynlluniau a’r camau mae pobl hŷn yn eu rhoi ar waith i’w helpu i ymdopi â’r misoedd nesaf, beth sy’n dda neu beth sy’n gwneud gwahaniaeth cadarnhaol, ac am y pethau a allai fod yn gwneud bywyd yn anoddach.
Bydd hyn yn helpu mewn dwy ffordd bwysig:
- Helpu i ddeall yr anawsterau a’r heriau mae pobl hŷn yn eu hwynebu mewn ‘amser real’ er mwyn i ni allu adnabod materion penodol yn gyflym a sicrhau bod camau’n cael eu cymryd.
- Darparu sylfaen dystiolaeth rymus sy’n dangos lle mae angen gwelliannau, er mwyn i ni allu dylanwadu ar gynlluniau a phenderfyniadau Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus allweddol eraill yng Nghymru.
Mae’r Comisiynydd yn gobeithio’n fawr y byddwch chi’n awyddus i gymryd rhan a rhannu eich stori gaeaf i gefnogi’r gwaith pwysig hwn. Rydyn ni’n croesawu cyfraniadau Cymraeg a Saesneg.
Os oes gennych chi ddiddordeb ac am wybod mwy am sut gallwch chi gymryd rhan, cysylltwch 03442 640670 neu anfonwch e-bost at winterstories(at)olderpeoplewales.com