Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd ar hyn o bryd yn gweithio gyda Chwaraeon Cymru i fynd i’r afael â diffyg cyfranogiad mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol, gan weithio tuag at fynd i’r afael ag anghydraddoldebau o ran cyfranogiad ledled Cymru a gweledigaeth ar y cyd o Gymru lle mae pawb yn egnïol.
I wneud hyn, maen nhw’n casglu mewnwelediad a phrofiadau gan ystod amrywiol o bobl a sectorau a allai gael dylanwad ar weithgarwch corfforol a chwaraeon yng Nghymru mewn arolwg byr.
Cyn i chi edrych ar yr arolwg, arhoswch i feddwl:
Dychmygwch Gymru lle mae pawb yn weithgar: pa fanteision a ddaw yn sgil hynny?
Sut mae mynd i’r afael â diffyg cyfranogiad mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol, ac anghydraddoldebau mewn cyfranogiad yn bwysig i chi?
Beth fyddai’n helpu i sicrhau Cymru lle mae pawb yn egnïol, a beth sy’n rhwystro ar hyn o bryd?