Trwy saith digwyddiad 'neuadd y dref' ym mhob ardal Bwrdd Iechyd GIG Cymru, digwyddiad ar-lein cenedlaethol ac arolwg, llwyddodd y prosiect i gasglu mewnwelediadau a safbwyntiau dros ddwy fil o aelodau'r cyhoedd.
Datgelodd y sgyrsiau awydd cryf am newid radical wrth gynnal egwyddorion sylfaenol y GIG. Ymhlith y themâu allweddol a ddeilliodd o'r sgyrsiau hyn roedd: Atal, Ymyrraeth Gynnar, a Ffordd o Fyw; Grymuso a Rhannu Cyfrifoldeb; Gwasanaethau a Chymorth Integredig; Penderfynyddion Ehangach Iechyd; Cyfathrebu; Demograffeg; a Heriau'r Gweithlu. Mae’r themâu hyn, sy’n gyson ar draws rhanbarthau er gwaethaf rhai amrywiadau, yn darparu fframwaith cadarn ar gyfer gweithredu yn y dyfodol ac yn llywio’r penderfyniadau hollbwysig y mae’n rhaid eu gwneud i greu system gofal iechyd sy’n addas ar gyfer y dyfodol.
Gallwch ddarllen yr adroddiad llawn yma.