Mae Cyngor Sir Powys yn credu y dylai pob rhanddeiliad, gan gynnwys trigolion, partneriaid, a busnesau gael cyfleoedd i gymryd rhan ac ymgysylltu, fel y bydd eu lleisiau yn dylanwadu ar benderfyniadau a darpariaeth gwasanaeth yn y dyfodol led led Powys.
Mae’r strategaeth ddrafft, a luniwyd yn unol â chyfarwyddyd Llywodraeth Cymru, yn nodi’r weledigaeth ar gyfer cyfranogiad cyhoeddus ym Mhowys.
Fel rhan o’r broses ddatblygu i lunio strategaeth cyfranogiad cyhoeddus, mae’r Cyngor yn gofyn am adborth.
Dywedodd y Cyng. James Gibson-Watt, Arweinydd a’r Aelod Cabinet ar gyfer Powys Agored a Thryloyw: “Rydym eisiau gweithio er budd pennaf Powys a rhoi trigolion a chymunedau wrth galon popeth a wnawn. Bydd y strategaeth hon yn tywys staff y cyngor ac aelodau etholedig tuag at ddiwylliant cydweithredol o gyfranogiad ac ymgysylltu gyda’n cymunedau lleol.
“Rwyf yn annog cymaint o bobl ag sy’n bosibl i gael dweud eu dweud ar y ddogfen ddrafft a’n helpu ni i sicrhau fod y ddogfen derfynol yn diwallu anghenion pawb.”
I weld copi o’r strategaeth ddrafft a chyflwyno eich adborth, edrychwch ar: https://www.dweudeichdweudpowys.cymru/strategaeth-cyfranogiad-cyhoeddus
Gellir cyflwyno adborth ar-lein, neu mae ffurflen adborth ar gael i’w lawr lwytho a gellir ei dychwelyd dros e-bost at haveyoursay(at)powys.gov.uk neu ei chyflwyno mewn unrhyw un o Lyfrgelloedd Powys.
Y dyddiad cau i gyflwyno unrhyw adborth yw dydd Sul 18 Rhagfyr 2022.