Gweler y gwahoddiad isod gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith.
Ar 25 October (10am – 11:30am), hoffem eich gwahodd i ymuno â ni yn ein digwyddiad rhithiol Bwrdd Crwn Gofalwyr sy’n Gweithio i drafod sut y gallwn gefnogi’r nifer cynyddol o gyflogeion yn y gweithle sy’n cydbwyso gwaith cyflog gyda chyfrifoldebau gofal di-dâl.
Mae’n amlwg, efallai nawr yn fwy nag erioed, bod cyflogeion gyda chyfrifoldebau gofalu yn wynebu nifer o rwystrau yn y gweithle. P’un ai’n gorfod cwtogi eu horiau neu adael eu swyddi yn llwyr, mae cyfrifoldeb ychwanegol bod yn ofalwr di-dâl yn effeithio ar fywyd a gwaith llawer o unigolion.
Mae’n hanfodol ein bod yn cydnabod y problemau sy’n effeithio ar ofalwyr di-dâl yn y gweithle a cheisio ffyrdd i roi gwell cefnogaeth iddynt.
Felly croesawn chi i ymuno â ni yn ein digwyddiad rhithiol, lle gallwch:
- Glywed sut mae Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i gefnogi gofalwyr di-dâl:
- Clywed am waith Gofalwyr Cymru a’r canllawiau sydd ar gael i gyflogwyr sy’n dymuno cefnogi eu cyflogeion,
- Cymryd rhan yn y drafodaeth i ganfod ffyrdd y gall paw ohonom gydweithio i wella’r gefnogaeth sydd ar gael i weithwyr di-dâl yn y gweithle.
Byddwn yn ddiolchgar iawn pe medrech gadarnhau os gallwch fynychu drwy e-bost at wendy.ellaway-lock(at)learningandwork.org.uk.