Hoffai Iechyd Cyhoeddus Cymru a phartneriaid glywed am eich profiad chi o gefnogi eraill yn eich cymuned yn y cyfnod hwn. Beth bynnag rydych chi wedi'i wneud - os ydych chi wedi gwirfoddoli i elusen, cerdded ci eich cymydog neu gynnig clust gyfeillgar i rywun sy'n cysgodi – hoffen nhw glywed amdano.
Gallwch ddarllen y llythyr atodedig i gael mwy o wybodaeth neu fynd i'r arolwg nawr. Mae’r arolwg ond yn cymryd 15 munud ac yn ddienw.
Os byddai'n well gennych gwblhau'r arolwg trwy'r post neu dros y ffôn (naill ai yn Saesneg neu Gymraeg), ffoniwch Strategic Research and Insight, sy'n rheoli'r arolwg ar ran Iechyd Cyhoeddus Cymru, ar rhadffôn 0800 255 0165 neu e-bostiwch angus(at)strategic-research.co.uk i drefnu hwn.
Diolch yn fawr am eich cymorth. Bydd hyn yn caniatáu Iechyd Cyhoeddus Cymru i gynllunio sut i wella iechyd a lles mewn cymunedau ledled Cymru yn y dyfodol.