Astudiaeth o anghenion a phrofiadau gofalwyr Du a Lleiafrifoedd Ethnig (BAME) yng Nghymru.

Mae Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru yn cynnal astudiaeth o anghenion a phrofiadau gofalwyr Du a Lleiafrifoedd Ethnig (BAME) yng Nghymru. Bydd hyn yn cynnwys arolwg/holiadur traddodiadol, ac amryw o gyfweliadau manwl a grwpiau ffocws.

Mae Quality Health, asiantaeth ymchwil gymdeithasol arbenigol, yn cynnal elfennau ymchwil meintiol ac ansoddol mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru.

Y nod yn y pen draw yw trawsnewid y gydnabyddiaeth, y parch a’r gefnogaeth y mae gofalwyr di-dâl BAME yn eu cael mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol. 

Er mwyn cyrraedd cymaint o ofalwyr â phosibl o gymunedau lleiafrifoedd ethnig, mae Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru yn estyn allan at fudiadau a all helpu. Nod y prosiect yw ymgysylltu â chynifer o ofalwyr â phosibl o gymunedau lleiafrifoedd ethnig.

Byddem yn hynod ddiolchgar pe gallech ein helpu i ymgysylltu â gofalwyr BAME yng Nghymru mewn perthynas ag unrhyw un o'r canlynol:

  1. Cymryd rhan mewn grŵp ffocws ar-lein (mae tâl cymhelliant o £15 ar gael ar gyfer hyn). Dyma’r brif flaenoriaeth.
     
  2. Cefnogi’r prosiect i brofi’r holiadur pan fydd wedi cael ei lunio (diwedd Ebrill).
     
  3. Gofyn i ofalwyr BAME lenwi'r holiadur mewn cyd-destun ‘bywyd go iawn' pan fydd yn cael ei lansio ym mis Mehefin.

 

Lle i gael hyd inni

Swyddfa Llandrindod

Unit 30
Ddole Road Industrial Estate
Llandrindod
Powys
LD1 6DF

01597 822 191

Swyddfa'r Drenewydd

Plas Dolerw
Milford Road
Drenewydd
Powys
SY16 2EH

01686 626 220

Cysylltu

Authentication

Trusted Charity