Rhan bwysig iawn o'r ymchwil hon yw deall profiadau sefydliadau sy'n darparu cyfleoedd gwirfoddoli a rhanddeiliaid perthnasol arall ledled Cymru, ac felly rydym wedi creu arolwg byr ar-lein sydd ar gael yma:
Cliciwch yma i gymryd yr arolwg
Ni ddylai'r arolwg gymryd mwy na 5 i 10 munud i chi ei gwblhau. Mae cymryd rhan yn yr arolwg yn wirfoddol. Hyd yn oed os nad ydych wedi defnyddio gwefan Gwirfoddoli Cymru bydd eich adborth yn ein helpu i ddatblygu system a fydd yn helpu i lunio a gwasanaethu dyfodol gwirfoddoli.
Bydd unrhyw sylwadau a wnewch yn aros yn gyfrinachol a dim ond at ddibenion yr ymchwil hwn y defnyddir eich ymatebion. Nid yw'r tîm sy'n cynnal y gwerthusiad yn gweithio i CGGC. Mae hwn yn werthusiad annibynnol. Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach gallwch gysylltu ag Ioan Teifi (ioan.teifi(at)wavehill.com | 01545 571 711) neu Michiel Blees yn WVCA (mblees(at)wcva.cymru).
Diolch am eich cefnogaeth,