Nod yr arolwg hwn yw cael gwybod am brofiadau pobl a effeithiwyd gan ganser ac sy'n byw yng Nghymru. Erfyniwn arnoch i rannu eich meddyliau yn onest ac yn agored gyda ni. Bydd hyn yn ein helpu i gefnogi unrhyw newidiadau i wasanaethau canser yn y dyfodol, drwy wrando ar farn y bobl sy’n defnyddio’r gwasanaethau hynny.
Mae'r arolwg hwn wedi'i anelu at gleifion sydd wedi cael diagnosis o ganser o fewn y 2 flynedd diwethaf: efallai eich bod wedi gorffen eich triniaeth neu'n dal i gael rhyw fath o driniaeth.
Mae cyflawni’r arolwg hwn yn wirfoddol, a gallwch ddewis peidio ag ateb unrhyw rai o'r cwestiynau. Bydd eich atebion yn aros yn ddienw, a byddwn yn defnyddio, yn rheoli ac yn storio’r holl ddata yn unol â Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) 2018 sydd mewn grym ar hyn o bryd yn y DU. Ni fydd unrhyw ddata personol adnabyddadwy yn cael ei gasglu at ddibenion yr arolwg hwn.
Diolch am roi o'ch amser i gymryd rhan, gwerthfawrogwn eich barn a'ch sylwadau yn fawr.
Sylwch: Mae’r arolwg hwn yn ddienw, felly ni allwn ymateb i unrhyw gwynion penodol - dylid eu cyfeirio’n uniongyrchol i’r Bwrdd Iechyd sy’n darparu eich gofal.
Hysbysiad Preifatrwydd
https://cydweithrediad.gig.cymru/use-of-site/hysbysiad-preifatrwydd/
I gael mynediad i’r arolwg, dilynwch un o’r dolenni canlynol:
Hwb cleifion - Cydweithrediad Iechyd GIG Cymru
https://www.smartsurvey.co.uk/s/ArowgProfiadCleifionRhwydwaithCanserCymru/