Mae sut mae pobl hŷn yn cael gafael ar wasanaethau meddygon teulu yn broblem ers tro byd, ac mae fy ngwaith ymchwil diweddar wedi canfod bod dros 40% o bobl hŷn yn llai tebygol o geisio cael apwyntiad meddyg teulu neu gysylltu â meddyg teulu y tu allan i oriau oherwydd bod adroddiadau am y pwysau sydd ar y GIG.
Mae’r ffaith bod rhai gwasanaethau wedi newid i fod yn rhai digidol, boed hynny ar-lein neu dros y ffôn, wedi bod yn ddefnyddiol i rai pobl ond wedi creu rhwystrau i bobl eraill, yn enwedig pobl sydd wedi’u hynysu a heb neb wrth law i’w helpu.
I ddysgu mwy am y mathau o broblemau a heriau sy’n wynebu pobl hŷn wrth gael gafael ar wasanaethau meddygon teulu, rydw i’n gwahodd pobl hŷn i rannu eu profiadau gyda mi drwy lenwi arolwg syml.
Bydd yr arolwg ar gael tan ddiwedd mis Tachwedd 2023.
Gellir llenwi’r arolwg drwy ddefnyddio’r dolenni uchod NEU drwy lawrlwytho a llenwi’r ddogfen Word sydd ynghlwm a’i hanfon i ask(at)olderpeople.wales dros e-bost, neu ei dychwelyd ar ffurf copi caled i:
RHADBOST RTHR-HYZC-RRAX
Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru
Adeiladau Cambrian
Sgwâr Mount Stuart
Caerdydd
CF10 5FL
Os ydych chi eisiau copi caled drwy’r post, cysylltwch â ni ar 03442 640 670 neu anfon e-bost i ask(at)olderpeople.wales