Fel rhan o’r gwaith hwn, mae ‘Grow Social Capital’ yn cynnal arolwg i ddeall barn pobl ar ‘wydnwch’ a’u dehongliadau o’r cysyniad hwn.
Rydyn ni’n ceisio ymhél â’r amrediad ehangaf o fudiadau - o rai mawr i rai bach, ar draws amrywiaeth o weithgareddau, ac o bob cwr o Gymru.
Mae’r ymateb cychwynnol i’r gwaith hwn wedi bod yn gadarnhaol, ond mae angen i ni ofyn am eich helpu i gyrraedd rhai rhannau o’n sector nad ydym â chynrychiolaeth ddigonol ohonynt ar hyn o bryd yn ein hymatebion i’r arolwg. Rydym yn awyddus iawn i glywed gan –
- Grwpiau sy’n gweithio gyda chymunedau ethnig amrywiol
- Defnyddwyr Cymraeg
- Ymddiriedolwyr
Nid oes gennym chwaith gynrychiolaeth ddigonol o Ogledd-ddwyrain Cymru yn ein hymatebion hyd yma. Mae’r arolwg ar gael yn Gymraeg a Saesneg ac mae ‘Grow Social Capital’ yn ymrwymedig i ddarpariaeth y Gymraeg fel rhan o’r gwaith hwn.
Nod yr ymchwil hwn yw cael barn gyfunol y sector gwirfoddol ar wydnwch. Bydd hyn yn cyfrannu at ddiffiniad defnyddiol o wydnwch, yn darparu tystiolaeth o’r hyn sy’n gweithio a ddim yn gweithio o ran adeiladu gwydnwch, ac yn llywio gwaith CGGC ar gefnogi’r sector wrth i ni ddod drwy’r pandemig hwn.
Byddem yn gwerthfawrogi eich cymorth i annog eich aelodau a’ch rhwydweithiau i gymryd rhan yn yr arolwg y gellir ei weld yn https://growsocialcapital.org.uk/dweud-eich-dweud-beth-yw-gwytnwch/