Arolwg gweithgareddau Cynhwysiant Digidol

Mae arolwg gweithgareddau Cynhwysiant Digidol bellach yn agored i sefydliadau ar draws Cymru sy’n darparu cymorth digidol i bobl.

Arolwg o weithgareddau cynhwysiant digidol | MapDataCymru (llyw.cymru)

Digital inclusion activity survey | DataMapWales (gov.wales)

Mae’r map rhyngweithiol yn caniatáu i staff a gwirfoddolwyr rheng flaen i chwilio yn ôl cod post er mwyn cyfeirio pobl sydd angen cymorth digidol yn eu cymunedau lleol. Mae’r wybodaeth a ddarperir gennych yn bwysig i’n ein helpu i lunio ein map o weithgareddau a chymorth cynhwysiant digidol ledled Cymru (sgiliau digidol sylfaenol, dyfeisiadau a chysylltedd). 

Rydym eisiau ymgysylltu cymaint â phosibl er mwyn sicrhau bod y map yn cynnwys gweithgareddau digidol cywir a chyfredol mewn cymunedau ledled Cymru. Fe fyddem yn gwerthfawrogi eich help yn cwblhau’r arolwg.

Bydd llenwi’r arolwg yn cymryd tua 10 munud. Bydd yr arolwg yn cau ar 14 Gorffennaf 2023.

Cwblhewch un arolwg ar gyfer pob lleoliad lle mae’ch sefydliad yn darparu cymorth. Er enghraifft, os ydych yn Awdurdod Lleol sy’n rheoli nifer o lyfrgelloedd, cwblhewch un arolwg ar gyfer pob llyfrgell.

Rydym yn gobeithio cyhoeddi’r fersiwn nesaf o’r map ar y dudalen Cynhwysiant Digidol ar wefan Llywodraeth Cymru yn ystod hydref 2023. Rydym yn bwriadu cynnal yr arolwg bob chwe mis fel bod y map yn parhau’n gyfoes. Sut mae helpu rhywun rydych yn ei adnabod i fynd ar-lein | LLYW.CYMRU

Cysylltwch â digitalinclusionmailbox(at)llyw.cymru os oes gennych gwestiynau.

Diolch am gymryd amser i gwblhau’r arolwg hwn.

Lle i gael hyd inni

Swyddfa Llandrindod

Unit 30
Ddole Road Industrial Estate
Llandrindod
Powys
LD1 6DF

01597 822 191

Swyddfa'r Drenewydd

Plas Dolerw
Milford Road
Drenewydd
Powys
SY16 2EH

01686 626 220

Cysylltu

Authentication

Trusted Charity