Fel rhan o hyn, rydym yn lansio arolwg i ddeall profiadau pobl o gael diagnosis o ddementia, a'r cymorth dilynol sy'n cael ei gynnig neu sydd ei angen. Cafodd ei gynllunio i gael ei lenwi gan rywun sy'n byw â diagnosis o ddementia (gyda chefnogaeth os oes angen), NEU gan ofalwr person sy'n byw â dementia, NEU'r ddau gyda'i gilydd. Dim ond rhyw 10 munud fydd yn ei gymryd i lenwi’r arolwg, ac mae ar gael yn y Gymraeg a’r Saesneg.
Gobeithiwn ddosbarthu’r arolwg i gymaint o bobl sy'n byw â dementia, neu’n gofalu am rywun â dementia, yng Nghymru â phosibl. Hoffem siarad yn benodol â phobl sydd wedi cael diagnosis yn ystod y 5 mlynedd diwethaf, a/neu eu gofalwyr. Rwyf wedi atodi taflen/poster A4 syml ynglŷn â’r arolwg, i'w ddefnyddio lle bo hynny'n berthnasol.
Gallwch ddod o hyd i'r arolwg yma:
www.opinionresearch.co.uk/BywGydaDementia2023
Mae fersiwn papur ar gael hefyd i bobl nad ydynt yn hyderus i lenwi'r arolwg ar-lein, y gallwn ei anfon atoch chi, neu'n uniongyrchol at y cyfranogwyr, drwy'r post. Gallwch ofyn am hyn drwy gysylltu â mi: Harriet.hendra(at)ors.org.uk neu 01792 535315.
Cysylltwch â mi ar bob cyfrif os oes bydd ymholiadau gennych am yr arolwg neu'r gwerthusiad yn ei gyfanrwydd.