Fel rhan o'r gweithgaredd ymgysylltu yr ydym yn ei gynnal dros fisoedd Mehefin a Gorffennaf, mae IPC yn cynnal arolwg i roi adborth manwl inni am gynnwys cynlluniau gweithlu drafft a'r fframwaith ôl-gymhwyso.
Lansiwyd yr arolygon ddydd Gwener 11eg Mehefin a bydd pob un yn cymryd tua 30 munud i'w cwblhau. Rydym yn gwerthfawrogi bod pobl yn eithriadol o frysur am amryw resymau ond rydym yn obeithiol y gallwch ddod o hyd i amser i gwblhau'r arolygon pwysig hyn fel bod cynlluniau'r gweithlu yn adlewyrchu anghenion y gweithlu yn glir ac fel bod y camau a wneir yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol wrth symud ymlaen.
Gellir cyrchu'r arolwg ar gyfer cynllun y gweithlu gwaith cymdeithasol a'r fframwaith ôl-gymhwyso trwy'r ddolen hon https://www.smartsurvey.co.uk/s/SCWsocialworkandPQsurvey/
Gellir cyrchu'r arolwg ar gyfer cynllun y gweithlu gofal uniongyrchol trwy'r ddolen hon https://www.smartsurvey.co.uk/s/SCWdirectcaresurvey/
Y dyddiad cau i gwblhau eich ceisiadau yw 30 Gorffennaf 2021 ac mae set o gyfarwyddiadau ac arweiniad ar sut i gwblhau'r arolwg wedi'u cynnwys yn y dolenni.