Arolwg Cyflwr Gofalu 2021

Mae’r Arolwg Cyflwr Gofalu yw ymchwil fwyaf cynhwysfawr y DU i fywydau a phrofiad gofalwyr ac mae arolwg 2021 nawr ar agor.

 

 

Mae ein hymchwil a’r hymatebion i’n harolygon dros y flwyddyn ddiwethaf wedi ein helpu i dynnu sylw’r cyfryngau at brofiadau gofalwyr ledled y DU. Gyda chymorth gofalwyr, rydym wedi ymgyrchu'n llwyddiannus i gael gwell arweiniad, profion am ofalwyr, PPE ar gyfer gofalwyr di-dâl, “swigod cymorth” gofalwyr ac eithriadau i ganiatáu i ofalwyr gael seibiant.  

Roedd gofalwyr hefyd wedi'u cynnwys yn y rhestr flaenoriaeth ar gyfer brechu COVID-19, ac fe wnaethom ymgyrchu am gyngor penodol i gefnogi cyngor i ofalwyr yn jyglo gwaith ar yr un prid a gofalu. 

Mae gofalwyr sy'n dweud wrthym beth yw eu blaenoriaethau wedi helpu i ni ganolbwyntio ein gwaith a helpu'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau i wybod beth sy'n bwysig i ofalwyr. Byddwn yn parhau i ymgyrchu i ofalwyr gael gwell cefnogaeth. 

Gofynnwn i chi rannu ein harolwg â'ch cefnogwyr lle bynnag y bo modd.  Rydym yn gwerthfawrogi pob un sy'n cymryd yr amser i gwblhau'r arolwg. Gyda'ch gilydd rydych chi'n ein helpu i baentio llun o effaith mae gofalu wedi cael ar eich bywydau yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. 

Gellir cwblhau'r arolwg yma State of Caring Survey 2021 (surveymonkey.co.uk) a bydd yn cau ar 13eg Medi. Yna byddwn yn rhyddhau canfyddiadau a’r adroddiad ymchwil ym mis Tachwedd. 

 

 

 

Lle i gael hyd inni

Swyddfa Llandrindod

Unit 30
Ddole Road Industrial Estate
Llandrindod
Powys
LD1 6DF

01597 822 191

Swyddfa'r Drenewydd

Plas Dolerw
Milford Road
Drenewydd
Powys
SY16 2EH

01686 626 220

Cysylltu

Authentication

Trusted Charity