Dyma'ch cyfle i fwydo eich profiadau, eich mewnwelediadau a'ch gwybodaeth eich hun i MSR Powys a helpu i sicrhau bod MSR Powys yn cyfleu ehangder sefydliadau'r trydydd sector a’r sefydliadau gwerth cymdeithasol sy'n darparu gwasanaethau gofal, ynghyd ag unrhyw heriau sy'n effeithio ar eu sefydlogrwydd a'u cynaliadwyedd.
Prif ffocws y Cynllun fydd asesu digonolrwydd a sefydlogrwydd y gofal a'r cymorth a ddarperir ar gyfer darpariaeth a reoleiddir; ac unrhyw fater arall sy'n ymwneud â darparu gwasanaethau a reoleiddir. Fodd bynnag, er bod llawer o'r gwaith yn canolbwyntio ar y gwasanaethau gofal a chymorth a reoleiddir, gan gynnwys rhai gwasanaethau trydydd sector dan gontract, mae'r MSR hefyd yn cydnabod y rôl allweddol sy’n cael ei chwarae gan sefydliadau a mentrau gwerth cymdeithasol.
Yn benodol, bydd yr MSR yn archwilio:
- sut y mae'r mathau hyn o wasanaethau yn diwallu anghenion unigolion am ofal a/neu gymorth;
- yr effaith ar ddarpariaeth y gwasanaethau a reoleiddir;
- sut y mae ffurf y farchnad ar gyfer gwasanaethau a reoleiddir yn effeithio ar agweddau eraill ar y ddarpariaeth gofal a chymorth.
Gallwch chi gwblhau'r arolwg cyflym yma
www.dweudeichdweudpowys.cymru/arolwg-adroddiad-sefydlogrwydd-y-farchnad
Bydd yr arolwg hwn yn cau ddydd Mawrth 31 Mai 2022
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am yr arolwg neu os hoffech drafod unrhyw beth ymhellach, cysylltwch â mewnflwch Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Powys yn uniongyrchol prpb(at)powys.gov.uk