Nod yr arolwg yw cael gwell dealltwriaeth o heriau, anghenion a dyheadau pobl dros 50 oed yng Nghymru.
Ymatebodd mwy na phum mil o bobl i arolygon blaenorol a roddodd dystiolaeth hanfodol i’r elusen i hysbysu a dylanwadu ar y rhai sy’n gwneud penderfyniadau a darparwyr gwasanaethau allweddol yng Nghymru gan gynnwys Llywodraeth Cymru, gwasanaethau iechyd a chymdeithasol lleol, a’r sector gofal ehangach.
Dywed yr elusen fod yr arolwg dwyieithog hefyd yn helpu i flaenoriaethu ei gwaith fel y gall adlewyrchu'n well yr hyn sydd bwysicaf i bobl hŷn yng Nghymru.
Mae’r arolwg yn ymdrin ag ystod eang o faterion gan gynnwys mynediad at iechyd a gofal cymdeithasol, cyllid personol, materion tai, cyfrifoldebau gofalu, cyfleoedd ar gyfer gwaith cyflogedig, ac ansawdd ac argaeledd trafnidiaeth leol, gan gynnwys trafnidiaeth ysbyty.
Dywed pennaeth polisi Age Cymru, Heather Ferguson, “Rydym yn gwybod bod llawer o bobl hŷn yn wynebu rhai heriau anodd ar hyn o bryd megis anawsterau wrth gael mynediad at iechyd a gofal cymdeithasol, ymdopi â’r argyfwng costau byw, ac wynebu toriadau mewn meysydd fel fel trafnidiaeth gyhoeddus a bancio wyneb yn wyneb. Felly, mae angen inni wybod beth yw blaenoriaethau pobl hŷn a beth yw eu syniadau ar gyfer mynd i’r afael â rhai o’r heriau hyn.
“Po fwyaf o wybodaeth y byddwn yn ei chasglu, y mwyaf dylanwadol ac effeithiol y byddwn wrth ymgyrchu gyda phobl hŷn yng Nghymru ac ar eu rhan.
I gwblhau’r arolwg ar-lein yma.
Am gopïau papur ffoniwch 029 2043 1555 a dychwelwch drwy radbost: Age Cymru, RHADBOST RTZG-JHGC-RYJJ, Llawr Gwaelod, Mariners House, Age Cymru, Llys Trident, Heol East Moors, Caerdydd, CF24 5TD
Y dyddiad cau ar gyfer cynnal arolygon yw dydd Gwener 29 Mawrth 2024.
Os hoffai unrhyw un ymgyrchu gyda’r elusen ar unrhyw un o’r materion a godwyd yn yr arolwg, cysylltwch â Michael Phillips am sgwrs anffurfiol ar 07794 366 224 neu e-bostiwch michael.phillips@agecymru.org.uk Maent bob amser yn edrych i weithio gyda’i gilydd i codi materion gyda’r cyfryngau, gwleidyddion, a llawer o randdeiliaid allweddol eraill.