Adolygiad o'r Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys (GCTMB).

Camau nesaf yr Adolygiad o'r Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Argyfwng Meddygol (GCTMB)

Mae argymhellion wedi’u diweddaru ar ôl cwblhau trydydd cam ymgysylltu a’r cam olaf o’r Adolygiad GCTMB i’w hystyried mewn cyfarfodydd cyhoeddus o’r saith bwrdd iechyd yng Nghymru yn ystod yr wythnos yn dechrau 8 Ebrill 2024.

Bydd yr agenda a’r papurau ar gael ar wefannau’r byrddau iechyd cyn eu Cyfarfodydd:

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan: Cyfarfodydd Bwrdd Cyhoeddus 2024-25 -Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan (gig.cymru)

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: Cyfarfodydd y Bwrdd Iechyd - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (gig.cymru)

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro: Cyfarfodydd Bwrdd - Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro (gig.cymru)

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg: Cyfarfodydd Bwrdd & Phapurau - Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (gig.cymru)

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: Cyfarfodydd y bwrdd 2024 - Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (gig.cymru)

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe: Cyfarfodydd bwrdd/dogfennau allweddol - Bwrdd lechyd Prifysgol Bae Abertawe (gig.cymru)

Bwrdd Iechyd Addysgu Powys: Cyfarfodydd y Bwrdd - Bwrdd Iechyd Addysgu Powys (gig.cymru)

Bydd barn y saith bwrdd iechyd wedyn yn cael ei hystyried mewn cyfarfod cyhoeddus o Gydbwyllgor Comisiynu (CBC) GIG Cymru ar 23 Ebrill 2024.

Y CBC yw’r pwyllgor cenedlaethol newydd sy’n disodli’r Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys, Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, a’r Uned Gomisiynu Cydweithredol Genedlaethol o 1 Ebrill.

Bydd agenda a phapurau cyfarfod y Cydbwyllgor Comisiynu (CBC) ar gael cyn y cyfarfod ar wefan y CBC: Hafan - Cydbwyllgor Comisiynu GIG Cymru.

Bydd diweddariad pellach yn cael ei ddarparu yn dilyn y cyfarfod ar 23 Ebrill.

 

Lle i gael hyd inni

Swyddfa Llandrindod

Unit 30
Ddole Road Industrial Estate
Llandrindod
Powys
LD1 6DF

01597 822 191

Swyddfa'r Drenewydd

Plas Dolerw
Milford Road
Drenewydd
Powys
SY16 2EH

01686 626 220

Cysylltu

Authentication

Trusted Charity