Gweler y neges gan y cyngor isod.
Byddwn yn ystyried y ddarpariaeth bresennol, defnydd, costau rhedeg, allyriadau carbon a chyflwr yr adeiladau, yn ogystal â gweithgareddau a chyfleoedd hamdden eraill sydd ar gael o fewn ac o gwmpas y sir.
Bydd yr arolwg yn agor heddiw (dydd Llun 3 Gorfennaf 2023) a bydd yn gorffen ddydd Llun 28 Awst 2023.
Am ragor o fanylion am yr adolygiad ac i gymryd rhan yn yr ymarferiad ymgysylltu ar-lein, ewch i: https://www.dweudeichdweudpowys.cymru/adolygiad-hamdden-powys-2023
Mae copïau papur o’r arolwg ar gael i chi eu casglu o’ch llyfrgell leol ac ar ôl i chi eu cwblhau gallwch eu rhoi yn ôl i’r staff mewn Canolfan Hamdden Freedom neu Lyfrgell ym Mhowys, neu gallwch sganio ac yna e-bostio: haveyoursay(at)powys.gov.uk
Os hoffech annog pobl i gymryd rhan yn yr ymarferiad ymgysylltu hefyd, fe welwch bod poster yn atodedig (y gallwch ei brintio a’i arddangos ble y bo’n briodol) a delwedd i'w defnyddio ar y cyfryngau cymdeithasol i hybu cyfranogiad.
Ar ôl yr adolygiad hwn, byddwn ni’n dadansoddi’r data a’r adborth er mwyn dynodi rhai cynigion ar gyfer creu dyfodol cynaliadwy hir dymor sy’n darparu cyfleoedd am ffordd o fyw actif ledled y sir.
Rydym ni’n bwriadu ymgynghori eto â rhanddeiliaid a phreswylwyr yn yr hydref, i ystyried opsiynau a datblygu map ffyrdd tuag at Bowys iach ac actif fel rhan o Bowys Gryfach, Decach, Wyrddach.
Diolch yn fawr am eich amser.