Y Rhaglen Lywodraethu – Diweddariad

Mae Rhaglen Lywodraethu ddiwygiedig Llywodraeth Cymru wedi cael ei chyhoeddi

Neges gan Lywodraeth Cymru isod.

Mae’n diwygio’r Rhaglen Lywodraethu a gyhoeddwyd ym mis Mehefin i adlewyrchu’r Cytundeb Cydweithio gyda Phlaid Cymru.

Rydym wedi ymrwymo i greu Cymru gryfach, decach, wyrddach sy’n fwy tosturiol. Bydd egwyddorion cynhwysiant, cydweithio a chyfiawnder cymdeithasol wrth wraidd ein gwaith bob amser. Byddwn yn cydnabod amrywiaeth y safbwyntiau a phrofiadau yng Nghymru ac yn eu dathlu. Wrth inni fynd i’r afael â’r heriau presennol – heriau na welwyd eu tebyg o’r blaen – sy’n cynnwys yr ymateb parhaus i’r pandemig, rydym yn parhau’n ymroddedig i wneud hynny gan gydweithio â chi ac yn unol ag ysbryd partneriaeth gymdeithasol. 

Mae ein hamcanion llesiant wedi cael eu cadw, ac mae ein camau gweithredu i gyflawni’r amcanion hynny wedi cael eu cryfhau mewn nifer o feysydd gan y Cytundeb Cydweithio.   

Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda’n gilydd i sicrhau bod ein harbenigedd a’n gallu ar y cyd yn cael eu defnyddio i wella bywydau pobl yng Nghymru, yn awr ac yn y dyfodol.

Lle i gael hyd inni

Swyddfa Llandrindod

Unit 30
Ddole Road Industrial Estate
Llandrindod
Powys
LD1 6DF

01597 822 191

Swyddfa'r Drenewydd

Plas Dolerw
Milford Road
Drenewydd
Powys
SY16 2EH

01686 626 220

Cysylltu

Authentication

Trusted Charity