Y Meini Prawf ar gyfer Taliad Cymorth Hunanynysu yn cael eu hymestyn.

 

Bellach bydd mwy o bobl yn gymwys i wneud cais am y Taliad Cymorth Hunanynysu o £500, yn ôl cyhoeddiad gan Julie James, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol.

 

[Translate to Welsh:]

[Translate to Welsh:]

[Translate to Welsh:]

[Translate to Welsh:]

Mae’r cynllun, sydd wedi ei estyn tan fis Mehefin 2021, bellach yn agored i geisiadau gan bobl sydd ag incwm personol o lai na £500 yr wythnos a’r rheini sy’n cael Taliad Salwch Statudol Safonol y gofynnwyd iddynt hunanynysu gan y gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu, ap Covid-19 y GIG neu leoliad addysg eu plentyn.

Bydd y newidiadau hyn yn golygu y bydd tua 170,000 o bobl yn ychwanegol yn gymwys i gael y taliad os y gofynnir iddynt hunanynysu, ac os byddent yn colli incwm o ganlyniad i hynny.

Bwriad y cynllun hwn yw helpu i gael gwared ar rwystrau ariannol sy’n wynebu pobl y gofynnir iddynt hunanynysu, drwy ddarparu taliad o £500 i bobl gyflogedig neu hunan-gyflogedig y dywedwyd wrthynt am hunanynysu gan y gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu, sy’n cael Credyd Cynhwysol neu fudd-dal penodol arall, sy’n methu gweithio gartref, neu sy’n rhieni neu’n gofalu am blentyn y gofynnir iddo hunanynysu oherwydd bod achosion Covid-19 yn eu lleoliad addysgol.

Mae’r elfen yn ôl disgresiwn yn cefnogi pobl nad ydynt  yn cael budd-daliadau ond sy’n bodloni’r meini prawf eraill ac sydd mewn perygl o wynebu caledi ariannol.

Yn ychwanegol mae’r cynllun wedi ei estyn tan fis Mehefin 2021 gyda’r posibilrwydd o estyniad pellach tan fis Hydref 2021.

Dywedodd  Julie James, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol:

 “Mae hunanynysu yn allweddol os ydym am roi stop ar ledaeniad y coronafeirws, a thra bo rhaglenni profi cymunedol yn yr arfaeth dros y misoedd nesaf mae’n hanfodol ein bod yn estyn y cynllun hwn i helpu rhagor o bobl i hunanynysu a chael y gefnogaeth ariannol sydd ei angen arnynt.

“’Rwyf eisiau diolch eto i bob awdurdod lleol yng Nghymru am eu cefnogaeth ddiflino yn cyflwyno’r cynllun hwn. Mae adborth ganddynt yn dweud bod y cynllun yn gweithio yn dda a bron i 8.500 o daliadau wedi eu gwneud. Er hynny, rydym yn gwybod bod diffyg incwm yn rhwystr i bobl rhag hunanynysu.

Mae Llywodraeth Cymru yn benderfynol o ddiogelu iechyd a lles pobl, a byddwn yn parhau i a helpu pobl Cymru yn ystod y cyfnod heriol hwn drwy sicrhau bod cymorth yn cael ei roi i’r rheini sydd ei angen.”

Dywedodd y Cynghorydd Anthony Hunt (Torfaen), Llefarydd Cyllid CLlLC:

“Rydym yn croesawu’r estyniad i’r Cynllun Cymorth Hunanynysu, a fydd yn helpu unrhyw un sy’n wynebu gorfod dewis rhwng aros gartref a methu â bwydo’r teulu neu fynd i’r gwaith ac efallai ledaenu’r coronafeirws. Ni ddylai neb orfod gwneud penderfyniad o’r fath. Bydd ymestyn y cynllun hwn yn golygu gallu parhau i helpu pawb i wneud eu rhan yn y frwydr yn erbyn y pandemig hwn.”

Lle i gael hyd inni

Swyddfa Llandrindod

Unit 30
Ddole Road Industrial Estate
Llandrindod
Powys
LD1 6DF

01597 822 191

Swyddfa'r Drenewydd

Plas Dolerw
Milford Road
Drenewydd
Powys
SY16 2EH

01686 626 220

Cysylltu

Authentication

Trusted Charity