Trwy’r DP bydd y cyngor yn darparu swm penodol o gyllid i ddefnyddiwr gwasanaeth bob mis – gan ddibynnu ar ganlyniad ei asesiad gofal –i brynu'r gofal sydd ei angen arnynt i fyw'n annibynnol.
Y Waled Rithwir a’r Chwilio Gofal a Chymorth yw’r ddwy system dan sylw ac mae'r ddwy wedi'u datblygu mewn partneriaeth â Phartneriaethau Cyhoeddus ac wedi'u datblygu gan ddefnyddio cyllid ICF gan Lywodraeth Cymru.
Y Waled Rithwir
www.myvirtualwallet.co.uk/powys
Ap yw hwn sy'n helpu’r rhai sy’n derbyn DP i reoli eu cyllidebau, y gwasanaethau y maent yn eu prynu yn ogystal â bilio a materion gweinyddu eraill. Bydd pob derbynnydd DP newydd yn defnyddio'r Waled Rithwir i reoli eu gofal o'r wythnos hon ymlaen. Yn y tymor hir, yr uchelgais yw y bydd y system hon yn disodli'r holl ' gyfrifon a reolir' presennol.
Bydd Waled Rithwir yn symleiddio'r broses o weinyddu anghenion gofal defnyddwyr gwasanaeth a bydd cymorth wrth law bob amser (gan Bartneriaethau Cyhoeddus) i helpu i ddatrys unrhyw anawsterau.
Bydd yr ap yn rhoi cyfle i ddefnyddwyr gwasanaeth (neu berson a ddynodwyd i'w helpu) hunan-reoli eu gofal, gan roi mwy o ddewis a rheolaeth iddynt dros sut y maent yn prynu'r gofal sydd ei angen arnynt. Bydd yn rhoi mynediad hawdd i'r derbynwyr at yr holl ddogfennau, gan ei gwneud yn haws rheoli eu gofal mewn un lle a byddant yn gallu cyflwyno ffotograffau o'u derbynebau drwy'r system.
Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth, gan gynnwys tiwtorial yn www.myvirtualwallet.co.uk/powys
Chwilio Gofal a Chymorth
https://caresupportfinder.org/
Mae'r adnodd hwn ar y we wedi'i gynllunio i helpu pobl sy'n dymuno prynu gofal a chymorth i ddod o hyd i bobl addas sydd ar gael i ddarparu hyn. Gallai'r darparwyr hyn fod yn Gynorthwywyr Personol neu'n Ficrofentrau Cymunedol.
Bydd Chwilio Gofal a Chymorth yn helpu i gysylltu Cynorthwywyr Personol a Microfentrau â phobl sy'n dymuno defnyddio’u DP i brynu gofal.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau am y naill system neu'r llall, mae croeso i chi gysylltu â’r Tîm Comisiynu y PCCSSCommissioning(at)powys.gov.uk