Sgamwyr cynllun cymorth biliau ynni

Mae trigolion Powys yn cael eu hannog i fod yn wyliadwrus o sgamwyr sy’n cynnig ad-daliad ynni.

A screenshot of a scam text message received by a member of Powys County Council staff, showing how realistic they can be made to look by cyber-criminals. Sgrïnlun o neges destun gan sgamwyr a dderbyniwyd gan aelod o staff Cyngor Sir Powys, yn dangos pa mor realistig y gall y seibr-droseddwyr wneud iddyn nhw edrych.

Mae adroddiadau am negeseuon e-bost a thestun gan sgamwyr ar gynnydd, gyda negeseuon ffug yn honni i fod am ad-daliadau ynni gan Ofgem y rheoleiddiwr ynni annibynnol neu Lywodraeth y DU. 

Mae’r negeseuon yn honni bod gan dderbynnydd y neges yr hawl i gael ad-daliad ynni neu fil ynni llai fel rhan o gynllun y llywodraeth gan gynnig dolenni y dylai’r derbynnydd eu dilyn i wneud cais am yr ad-daliad.  Mae’r dolenni yn eich tywys i wefannau maleisus sydd wedi’u dylunio i ddwyn gwybodaeth bersonol ac ariannol.

“Mae’n drist iawn i weld sgamwyr yn ceisio gwneud arian o’r argyfwng costau byw gyda’r negeseuon hyn,” meddai’r Cynghorydd Matthew Dorrance, Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir Powys ac Aelod y Cabinet ar gyfer Powys Decach. “Mae’r rhain yn cael eu hanfon yn ystod cyfnod pan mae’r rhan fwyaf o bobl yn disgwyl derbyn rhywbeth dilys am gymorth gyda’u biliau ynni, felly maen nhw’n fregus iawn i’r math yma o dwyll ar hyn o bryd.

“Cofiwch i fod yn wyliadwrus o’r twyllwyr yma, sydd wastad yn edrych am ffyrdd i gymryd mantais o unrhyw newidiadau mewn amgylchiadau.  Cofiwch i wirio’n drylwyr cyn clicio ar ddolen mewn e-bost neu neges destun, neu cyn trosglwyddo unrhyw wybodaeth bersonol neu ariannol.”

Os oes gennych unrhyw amheuon am neges, cysylltwch â’r sefydliad yn uniongyrchol. Peidiwch â defnyddio’r rhifau neu gyfeiriad yn y neges – defnyddiwch y manylion o’u gwefan swyddogol.  

Cofiwch, ni fydd eich banc (neu unrhyw ffynhonnell swyddogol arall) yn gofyn i chi roi gwybodaeth bersonol drwy e-bost neu neges destun.

I gael rhagor o gyngor am sut i gadw’n ddiogel ar-lein ewch i: www.cyberaware.gov.uk a rhowch wybod am unrhyw ymdrechion i dwyllo yn www.actionfraud.police.uk.

Bydd y disgownt ynni £400 nad oes angen ei ad-dalu oddi wrth Llywodraeth y DU yn cael ei dalu mewn chwe rhan-ddaliad, gyda chartrefi yn gweld £66 yn cael ei dynnu oddi ar eu biliau ynni ym mis Hydref a Thachwedd, a £67 y mis o fis Rhagfyr i Fawrth 2023. 

Bydd yr arian yn cael ei dalu mewn dulliau gwahanol, yn dibynnu ar sut ry’ch chi’n talu eich bil 

  • Os ydych wedi trefnu debyd uniongyrchol, neu’n talu gyda cherdyn, bydd yr arian yn cael ei gredydu’n awtomatig i’ch cyfrif ynni, gan leihau’r hyn sydd angen i chi dalu.
  • Bydd cwsmeriaid sydd â mesuryddion rhagdalu ‘clyfar’ yn cael yr arian wedi’i roi ar eu mesurydd bob mis, fel na fydd rhaid iddyn nhw ychwanegu cymaint o gredyd ar eu mesurydd. 
  • Bydd y rhai sydd â dyfeisiau rhagdalu traddodiadol nad ydynt yn rhai clyfar yn derbyn un ai ‘Negeseuon Gweithredu Arbennig’ neu dalebau o’u cyflenwr yn ystod yr wythnos gyntaf o bob mis, drwy neges destun, e-bost neu yn y post.

Gellir defnyddio’r talebau mewn mannau ‘top-up’, megis swyddfa bost leol, a bydd y disgownt yn cael ei gredydu i'r allwedd mesuryddion. Mae'n bwysig felly bod gan eich cyflenwr eich manylion cyswllt cyfredol a mwyaf diweddar.

Lle i gael hyd inni

Swyddfa Llandrindod

Unit 30
Ddole Road Industrial Estate
Llandrindod
Powys
LD1 6DF

01597 822 191

Swyddfa'r Drenewydd

Plas Dolerw
Milford Road
Drenewydd
Powys
SY16 2EH

01686 626 220

Cysylltu

Authentication

Trusted Charity