‘RYDYM YMA I CHI’ DYWED DOSBARTHWYR Y LOTERI GENEDLAETHOL WRTH I FILIYNAU O BUNNOEDD GAEL EU GWOBRWYO I HELPU CYMUNEDAU GYDA PHWYSAU’R CYNNYDD MEWN COSTAU BYW

Mae mynediad at gefnogaeth hanfodol oddi wrth ddosbarthwyr y Loteri Genedlaethol yn cael ei gynnig i elusennau a sefydliadau Cymreig sy’n cefnogi cymunedau yn wynebu anawsterau dyrys yn sgil pwysau costau byw – fel y mae ymchwil newydd a gyhoeddwyd yr wythnos hon yn dangos fod pobl ar draws y wlad yn rhagweld trafferthion cynyddol i wasanaethau lleol oherwydd effaith y pwysau economaidd presennol.

 

Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, mae miloedd o brosiectau led led y DU yn cael eu cefnogi er mwyn parhau i gynnal cyfleusterau a gwasanaethau lleol hanfodol y gaeaf hwn, gyda’r arian yn helpu rhai o’r bobl sydd fwyaf agored i niwed a effeithir gan y pwysau costau byw yn ein cymunedau. 
 
Gwobrwywyd dros £1 biliwn o bunnoedd i ddosbarthwyr arian y Loteri Genedlaethol (sy’n cwmpasu chwaraeon, y celfydddydau, treftadaeth a chymunedau) er mwyn cefnogi cymunedau led led y DU yn ystod y pandemig Coronafeirws, er mwyn eu helpu i ymdopi ac adfer. Nawr mae’r £30 miliwn a godir pob wythnos gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol ar gyfer achosion da yn cael ei osod ar y rheng flaen i gefnogi cymunedau sydd ei angen fwyaf yn ystod y pwysau costau byw. 
 
Dengys ffigyrau newydd a ryddhawyd yr wythnos hon trwy’r Mynegai Ymchwil Cymunedol ** sef ymchwil cwsmer diweddaraf Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol fod dros hanner o bobl yng Nghymru (54%) yn credu mai cefnogi pobl gyda’r cynnydd mewn costau byw yw’r pwysicaf ar gyfer lles eu cymuned, gyda hanner yng Nghymru (50%) yn bwriadu gwirfoddoli yn 2023 a phobl ifanc (18 hyd 24) yn arwain y ffordd (74%).  
 
Mae sefydliadau led led Cymru sy’n wynebu cynnydd mewn galw, heriau, a chaledi o ganlyniad uniongyrchol i’r argyfwng yn cael eu cefnogi mewn ffyrdd amrywiol, wrth i ariannwyr y Loteri Genedlaethol ymateb gyda blaenoriaethau newydd i helpu cymunedau gyda dull sy’n canolbwyntio ar hyblygrwydd a chefnogaeth. 
 
Mae rhaglenni ariannu presennol wedi cael eu haddasu neu eu teilwra gan ariannwyr y Loteri Genedlaethol i flaenoriaethau cefnogaeth costau byw. Mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol ei hunan yn sicrhau fod £75 miliwn ar gael ar draws y DU gyfan, i helpu’r sawl sydd yn yr angen mwyaf – gan ddarparu mwy o sicrwydd ar yr adeg hanfodol hon. Bydd yr holl nawdd yn cael ei gadw’n agored ac ar gael, gan fod yn barod i addasu, fel rhan o’i ymrwymiad Rydym Ni Yma i Chi.  
 
Boed os yw’n arian i wella effeithiolrwydd thermol safleoedd treftadaeth, darparu llifoleuadau ynni effeithiol ar gyfer clybiau chwaraeon cymunedol sy’n wynebu’r baich o gynnydd mewn costau, darparu miloedd o brydau poeth a pharseli bwyd am ddim, mannau cynnes i’r gymuned ddod ynghyd yn ystod misoedd y gaeaf, neu gefnogaeth gyda mentrau iechyd meddwl a rheoli arian – mae’r Loteri Genedlaethol yn gwneud bywyd ychydig bach yn haws trwy gynnig amrywiaeth eang o gefnogaeth ar draws y sectorau chwaraeon, y celfyddydau,. cymunedau ac elusennau, treftadaeth, addysg a’r amgylchedd yn ystod yr amseroedd heriol hyn. 
 
Un prosiect o’r fath sy’n derbyn cefnogaeth fawr ei hangen yw Foothold Cymru a leolir yn Llanelli, sef elusen cyfiawnder cymdeithasol sy’n gweithio i greu cymunedau cryfion lle y gall unigolion ffynnu ac nid goroesi’n unig.  
 
Bydd arian y Loteri Genedlaethol yn parhau i alluogi teuluoedd sy’n cael anawsterau i dalu eu biliau i gael mynediad at fwyd cost isel, ynghyd â sicrhau fod pobl yn cael mynediad at gyfleusterau ymarferol megis ceginau, golchdai ac offer, dillad a gwisgoedd ysgol cynnes, cyngor ar yrfaoedd a phrofiad a hyfforddiant wedi’i ardystio mewn amrywiaeth o bynciau ffordd o fyw megis garddio a choginio.  
 
Yn Sir Gaerfyrddin, lle mae Foothold yn gweithredu, mae bron 38 y cant o gartrefi mewn tlodi, gyda phlant yn cyfrif am 31 y cant o’r rheini mewn tlodi a thlodi mewn gwaith yn tyfu’n gynt na’r hyn y gall yr elusen ymdopi ag ef. 
 
Dywedodd un defnyddiwr gwasanaeth anhysbys: “Maen nhw’n dda i mi, ac yn fendith go iawn. 
 
“Ni allwn ymdopi hebddynt. Rwyf yn aml yn aros [wedi siopa] a chael sgwrs a phaned o de. Rwy’n hoffi’r cwmni a gweld pawb.”

Yn Wrecsam, Gogledd Cymru, derbyniodd grŵp We Are Plas Madoc £43,725 o arian y Loteri Genedlaethol i ddatblygu eu cynllun trafnidiaeth gymunedol cerbydau trydan ymhellach. Maent yn darparu opsiwn trafnidiaeth fforddiadwy ac ecogyfeillgar i drigolion yn ardal Plas Madoc a'r cyffiniau - cymuned anghysbell - fel y gallant gael mynediad at wasanaethau hanfodol, bwyd a gweithgareddau hamdden. O ganlyniad i’r cyllid, byddant hefyd yn ehangu eu darpariaeth yn eu hadeiladau i ddatblygu eu clwb brecwast a chinio Clwb Tegell ymhellach i gefnogi eu cymuned yn ystod y pwysau costau byw trwy ddarparu gofod cynnes a diogel, a mynediad i ystod o wasanaethau lleol.
 
A phrosiect arall a fydd yn elwa yw Ti a Fi Llanbister a leolir ym Mhowys, a fydd yn defnyddio arian y Loteri Genedlaethol i brynu teganau, deunyddiau crefft, a chyfarpar newydd ar gyfer eu grŵp chwarae gan greu llyfrgell deganau i deuluoedd sydd wedi’u hynysu’n wledig neu wedi’u heffeithio gan y pwysau costau byw. 
 
Dywedodd Lilly Thomas, Cadeirydd Ti a Fi Llanbister: “Rydym yn eithriadol o ddiolchgar i Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol am y grant hwn tuag at ein grŵp chwarae yn Llanbister. 
 
“Fe fydd yn cefnogi datblygiad ein plant trwy amrywiaeth eang o deganau ynghyd â theuluoedd yn yr ardaloedd cyfagos a fydd yn cael mynediad atynt, na fyddent o bosibl yn ei gael fel arall.  
 
“Fe fydd yn cynorthwyo rhieni trwy wasanaethau cefnogi y byddwn yn eu cyflwyno i mewn i’r grŵp.
 
Gan amlygu pwysigrwydd y gefnogaeth oddi wrth y Loteri Genedlaethol, dywedodd David Knott, Prif Weithredwr Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol: “Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, rydym yma i gefnogi cymunedau trwy amseroedd da a gwael. Mae’r arian maen nhw’n ei godi yn darparu nawdd mawr ei angen i sefydliadau anhygoel sy’n gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl. Mae hyn nawr yn cynnwys helpu pobl mewn amrywiaeth o ffyrdd wrth iddynt ddelio ag effaith y cynnydd mewn costau byw.  
 
“Yn yr amseroedd heriol hyn, mae mwy o arwyddocâd eto i arian y Loteri Genedlaethol a’n neges i gymunedau, grwpiau a gwirfoddolwyr sy’n gweithio’n ddiflino led led y DU yw ein bod ni yma i chi, ac y byddwn yn parhau i wrando a bod yn hyblyg ac yn ymatebol i’r heriau a'r pwysau rydych chi yn eu hwynebu.”  

 
Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yw’r ariannwr mwyaf ar gyfer gweithgaredd cymunedol yn y DU ac mae’n cefnogi pobl a chymunedau i ffynnu. 
 
Mae chwaraewyr y Loteri Genedlaethol yn codi mwy na £30 miliwn yr wythnos ar gyfer prosiectau celfyddydol, addysg, yr amgylchedd, iechyd, treftadaeth, chwaraeon, a gwirfoddoli ar draws y DU; edrychwch i weld y gwahaniaeth y mae’n ei wneud yn agos atoch chi  www.lotterygoodcauses.org.uk 

Lle i gael hyd inni

Swyddfa Llandrindod

Unit 30
Ddole Road Industrial Estate
Llandrindod
Powys
LD1 6DF

01597 822 191

Swyddfa'r Drenewydd

Plas Dolerw
Milford Road
Drenewydd
Powys
SY16 2EH

01686 626 220

Cysylltu

Authentication

Trusted Charity