Rhwystrau a chyfleoedd i Gymru gyrraedd sero net

Mae adroddiadau Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru yn amlygu rhwystrau a chyfleoedd i Gymru gyrraedd sero net

Mae papurau tystiolaeth terfynol Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru ar gyfer Grŵp Herio Cymru Sero Net 2035 yn dangos bod Cymru y tu ôl i’w huchelgeisiau sero net presennol ar gyfer 2050 ym maes trafnidiaeth a chartrefi (yn ogystal ag yn y sectorau bwyd ac ynni fel yr adroddwyd yn flaenorol), ac y byddai symud y targed ymlaen i 2035 yn gofyn am bolisïau arloesol ar ‘raddfa uchelgeisiol, os nad digynsail’, ynghyd â newid ymddygiad sylweddol. Fodd bynnag, mae’r adroddiadau hefyd yn tynnu sylw at yr ochrau cadarnhaol i ddatgarboneiddio fel lleihau tlodi tanwydd, gwella iechyd cyhoeddus a’r system trafnidiaeth Cymru. A mae’r adroddiad cysylltiedig ar addysg, swyddi a gwaith yn obeithiol am rai o’r ymdrechion sydd ar y gweill i baratoi’r gweithlu yng Nghymru wrth bontio tuag at sero net.

Dywedodd Cyfarwyddwr Polisi ac Ymarfer CPCC Dan Bristow, “Mae’n amlwg o’n cyfres ddiweddaraf o adroddiadau ar gyfer y Grŵp Herio Cymru Sero Net, yn seiliedig ar dystiolaeth gyfredol, bod angen llawer iawn o waith yn y sectorau trafnidiaeth ac adeiladau preswyl er mwyn i Gymru gyrraedd ei tharged sero net cyfredol ar gyfer 2050. Er mwyn symud y targedau hynny ymlaen i 2035, byddai angen ymrwymiad, buddsoddiad a seilwaith digynsail gan wneuthurwyr polisi lleol a chenedlaethol a’r cyhoedd.

Serch hynny, mae ein hymchwil hefyd yn nodi rhai camau cyflym sy’n gymharol hawdd – meysydd a allai gyflymu ymdrechion Cymru i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd yn sylweddol.”

Ychwanegodd cadeirydd Grŵp Herio Cymru Sero Net, Jane Davidson, “Fel y gwelwyd yn yr adroddiadau hyn ac adroddiadau blaenorol Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, mae angen newid sylweddol i leihau cyfraniad Cymru i’r her fyd-eang hon, tra hefyd yn diogelu lles cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol.

“Ein huchelgais yw cefnogi ein comisiynwyr, Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru drwy’r Cytundeb Cydweithio, i lywio’r ffordd heriol sydd o’n blaenau, gan sicrhau y daw’r broses pontio tuag at sero net â manteision diriaethol i bobl Cymru, tra bod y cyfle dal gennym.

“Hoffwn ddiolch i Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru am eu cefnogaeth wrth ddarparu papurau tystiolaeth o ansawdd uchel i Grŵp Herio Cymru Sero Net.

CANFYDDIADAU ALLWEDDOL

Trafnidiaeth 

  • Sector allweddol. Trafnidiaeth yw trydydd sector uchaf Cymru o ran allyriadau nwyon tŷ gwydr (y tu ôl i ddiwydiant ac ynni) felly byddai datgarboneiddio trafnidiaeth yn cyflymu cynnydd sero net Cymru yn sylweddol. Ceir a lorïau ysgafn sy’n cyfrannu 72% o allyriadau trafnidiaeth Cymru
  • Mwy o ymdrechion i osgoi teithio. Mae’r rhan fwyaf o ymdrechion i ddatgarboneiddio trafnidiaeth wedi canolbwyntio ar symud tuag at ddulliau mwy cynaliadwy o drafnidiaeth ar y ffyrdd ac i wella eu heffeithlonrwydd, ond ni fydd hynny’n ddigon ar ei ben ei hun
  • Cysylltu pobl a lleoedd yn allweddol. Mae angen cynllunio hirdymor ar draws y sectorau trafnidiaeth a thu hwnt, amrywiaeth o fentrau trafnidiaeth cysylltiedig trefol a gwledig, ac ymdrechion i newid ymddygiad er mwyn annog pobl i symud oddi wrth eu dibyniaeth ar geir
  • Enghreifftiau rhyngwladol. O adolygiad cysylltiedig ar fentrau mewn 18 o wledydd, gall Cymru ddysgu gwersi o ran cyflymu’r broses o bontio trafnidiaeth tuag at sero net

Cartrefi

  • Llawer mwy i'w wneud. Nid yw allyriadau o chartrefi yng Nghymru yn disgyn yn ddigon cyflym i fodloni targedau sero net, gan adlewyrchu’r defnydd araf o bympiau gwres a mesurau ôl-osod
  • Angen cymryd camau uchelgeisiol. Bydd cyrraedd y targed sero net cyfredol ar gyfer 2050 yn gofyn am newidiadau cyflym a chyfanwerthol i’r ffordd rydyn ni’n adeiladu ac yn gwresogi ein cartrefi – a byddai cyflawni sero net yn 2035 yn gofyn am bolisïau arloesol ar raddfa uchelgeisiol, os nad digynsail
  • Rhwystrau sy'n benodol i Gymru. Mae’r dasg yn gymhleth oherwydd bod y stoc adeiladu yng Nghymru yn hŷn na chyfartaledd y DU, a’r nifer fawr o adeiladau yng Nghymru sy’n cael eu hystyried yn ‘anodd i’w datgarboneiddio’
  • Manteision. Mae datgarboneiddio adeiladau yn cynnig cyfleoedd i gyflawni nifer o nodau polisi, fel lleihau tlodi tanwydd, gwella iechyd y cyhoedd, cefnogi cadwyni cyflenwi lleol a chyfleoedd am waith
  • Astudiaethau achos. Mae astudiaeth atodol o wyth o brosiectau ôl-osod o bob cwr o’r byd yn cyfeirio at rai gwersi y gall Cymru ddysgu oddi wrthynt

Swyddi sero net ac addysg

  • Swyddi. Bydd y broses bontio tuag at sero net yn creu cyfleoedd am fwy o swyddi a chynnydd yn y galw am sgiliau technegol
  • Sgiliau ac addysg. Mae gan Gymru nifer uchel o weithwyr sgiliau isel a chyfradd addysg bellach sy’n gostwng
  • Pontio teg. O’i gyfuno â hanes diwydiannol economi Cymru, mae hyn yn golygu bod angen ystyriaeth ofalus i gyrraedd targedau datgarboneiddio tra’n sicrhau bod gweithwyr yn cael eu hamddiffyn a phroses bontio deg

Cyfeiriodd Dan Bristow at y cyfleoedd hyn tra’n cydnabod yr heriau i Gymru,

“Er bod pryder ynglŷn â’r posibilrwydd o golli swyddi, wrth i sectorau gael eu datgarboneiddio, ceir cyfle unigryw i annog gweithwyr i uwchsgilio ac (ail)hyfforddi.
“Mae gwaith ar droed ar draws y system addysg a sgiliau gyda diwygiadau sy’n ceisio dod â’r ddarpariaeth ôl-16 at ei gilydd, yn ogystal â symudiad tuag at gwricwlwm llai rhagnodol, sy’n cael ei lywio’n fwy pwrpasol yn ystod addysg orfodol. Yn gysylltiedig â hynny mae cyfleoedd i integreiddio darpariaeth sgiliau gwyrdd a llythrennedd hinsawdd ar draws addysg a hyfforddiant gorfodol ac ar ôl oed gorfodol.”

CLICIWCH YMA am yr adroddiadau llawn: 

Sut y gallai Cymru gynhesu ac adeiladu cartrefi carbon isel erbyn 2035?
Datgarboneiddio’r system drafnidiaeth Cymru dra cysylltu pobl a lleoedd.
Beth fydd sectorau’r addysg, swyddi a gwaith yng Nhymru erbyn 2035?

Darllenwch yr adroddiadau llawn yma.

Lle i gael hyd inni

Swyddfa Llandrindod

Unit 30
Ddole Road Industrial Estate
Llandrindod
Powys
LD1 6DF

01597 822 191

Swyddfa'r Drenewydd

Plas Dolerw
Milford Road
Drenewydd
Powys
SY16 2EH

01686 626 220

Cysylltu

Authentication

Trusted Charity