Nod y Rhaglen Cydbwysedd yw gwella llesiant emosiynol, ac mae’n cynnwys sesiynau ar:
- Gadw’n iach
- Hunanofal
- Byw mewn ffordd sy’n arfer ymwybyddiaeth ofalgar
- Rhannu profiadau a chymorth
Bydd y cwrs ar-lein nesaf (a gyflwynir dros Microsoft Teams) yn cychwyn ar ddydd Mercher 26 Ebrill, 9.30-11.30am, gyda sesiynau pellach ar yr un amser ar 3, 10, 17, 24 a 31 Mai, ac ar 7 a 14 Mehefin.
I ddysgu mwy ac i archebu lle, cysylltwch â Nikki Thomas-Roberts, Phoenix Mindful Living, ar: phoenixmindfulliving(at)gmail.com
Os nad oes gennych amser i ddilyn cwrs wyth wythnos, gall staff a gwirfoddolwyr sy’n gweithio yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol hefyd fynychu Sesiwn Harmoni a Chydbwysedd am ddim, sesiwn unigol yw hwn sy’n para am dair awr (ar gyfer hyd at 8 o bobl) dros Microsoft Teams. Dyddiadau nesaf y sesiynau hyn yw: Dydd Mercher 31 Mai 1.30-4.30pm, a dydd Mercher 26 Gorffennaf, 9.30am-12.30pm.
Mae’n cynnwys cyflwyniad i hunan-ofal ac arfau, adnoddau a sgiliau hunan-drugaredd, ac i seicoleg gadarnhaol a ‘dangos diolchgarwch’, gyda’r nod o “adfer cydbwysedd a harmoni a byw’n fwy esmwyth”.
Eto i ddysgu rhagor ac i archebu lle, cysylltwch â Nikki Thomas-Roberts, Phoenix Mindful Living, ar: phoenixmindfulliving(at)gmail.com
Mae’r gwaith yma’n cael ei gyllido gan Fwrdd Partneriaeth Ranbarthol Powys, sy’n cynnwys ystod o gyrff cyhoeddus a chynrychiolwyr eraill, gan gynnwys Cyngor Sir Powys, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys a Chymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Powys (PAVO), sy’n cydweithio i wella iechyd a llesiant trigolion y sir. Mae hyn yn cynnwys helpu gofalu am y sawl sy’n cyflenwi gwasanaethau iechyd a gofal i eraill.
Mae Cecilia Harman, un o Swyddogion Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd, Cyngor Sir Powys, sydd wedi cymryd rhan yn y Rhaglen Cydbwysedd yn y gorffennol, wedi egluro sut roedd o gymorth iddi hi: https://youtu.be/yt589_Jxfzk
Nikki Thomas-Roberts
Arweinydd Sesiynau, Phoenix Mindful Living
& Victoria Sharpe
Cyd-reolwr Gwirfoddolwyr/Gofalwyr Iechyd a Gofal, Academi Iechyd a Gofal Powys