Rhaglen Balans Powys

Rhaglen Gydbwyso yn dychwelyd i ofalwyr di-dâl Powys

[Translate to Welsh:]

[Translate to Welsh:]

Bydd rhaglen sy’n helpu gofalwyr di-dâl Powys i gydbwyso’u hanghenion gofal eu hun ag anghenion y rhai maen nhw’n gofalu amdanynt, yn dychwelyd. 

Mae Academi Iechyd a Gofal Powys yn cynnig cwrs 8 wythnos am ddim ynghylch byw’n seiliedig ar ymwybyddiaeth ofalgar, gan ddechrau ddydd Gwener 24 Tachwedd. 

Bydd Rhaglen Cydbwyso Powys, sy’n cael ei darparu i’r academi gan Phoenix Mindful Living, yn rhedeg o 9.30 – 11.30am ddyddiau Gwener ar Microsoft Teams.

Mae’r cwrs ar gael i ofalwyr di-dâl yn unig, boed eu cyfrifoldeb yn rhan amser neu’n llawn amser, a nifer cyfyngedig o leoedd fydd ar gael.

Dywedodd Nikki Thomas-Roberts, o Phoenix Mindful Living, a fydd yn arwain y sesiynau: “Bydd y cwrs hwn yn eich arfogi ag offer, technegau a phrofiad o ddefnyddio ymwybyddiaeth ofalgar i adeiladu gwytnwch, rheolaeth emosiynol a hyder.

“Mae’n addas i unrhyw un sy’n wynebu newid a allai fod yn creu teimladau o or-bryder neu drallod, a hoffai adeiladu hunan hyder, dysgu am hunan dosturi a charedigrwydd, neu a hoffai ddyfod yn fwy hunan ymwybodol. Gallwn ni eich grymuso i’ch helpu i ymdopi â bywyd.

I ddarganfod rhagor, neu archebu lle, e-bostiwch Nikki: phoenixmindfulliving(at)gmail.com 

Mae gofalwr di-dâl yn ofalwr sy’n gofalu ar ôl aelod o’r teulu, partner neu ffrind sydd angen help oherwydd salwch, anabledd neu sy’n gaeth, ac nad yw’n derbyn cyflog am ddarparu’r gefnogaeth.

 

Lle i gael hyd inni

Swyddfa Llandrindod

Unit 30
Ddole Road Industrial Estate
Llandrindod
Powys
LD1 6DF

01597 822 191

Swyddfa'r Drenewydd

Plas Dolerw
Milford Road
Drenewydd
Powys
SY16 2EH

01686 626 220

Cysylltu

Authentication

Trusted Charity