O ganlyniad i'r pandemig, mae banciau bwyd yn y sir wedi gweld cynnydd yn y galw gan fod llawer o bobl wedi ei chael hi'n anodd fforddio pethau sylfaenol fel bwyd.
Mae Arweinydd Cyngor Sir Powys, y Cynghorydd Rosemarie Harris, yn rhedeg Apêl Pythefnos Banciau Bwyd i godi arian ar gyfer y deg banc bwyd ym Mhowys fel y gallan nhw brynu cyflenwadau i fwydo teuluoedd a allai fod ei angen fwyaf.
Mae Cyngor Sir Powys yn gweithio gyda PAVO sy’n casglu’r rhoddion ac a fydd yn dosbarthu’r arian a godir yn syth i’r banciau bwyd.
Dywedodd: "Mae'r pandemig wedi bod yn gyfnod anodd i lawer ac rwy'n gobeithio y gall hyn gyfrannu at gefnogi eu gwaith pwysig ymhellach wrth i ni agosáu at y Nadolig.
"Gan fod llawer o staff yn gweithio gartref, ry’n ni wedi trefnu tudalen rhoddion ar-lein yn hytrach na mannau gollwng bwyd. Rwy'n gwybod bod llawer o apeliadau am arian yr adeg hon o'r flwyddyn. Ond bydd croeso mawr i unrhyw roddion y gallwch eu gwneud. Bydd hyd yn oed punt yn gwneud gwahaniaeth."